Cipolwg Ar: GISDA

Cyhoeddwyd 13/10/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/10/2021   |   Amser darllen munudau

Yma yn Senedd Ieuenctid Cymru, ry’n ni’n falch i weithio gyda sefydliadau arbennig sy’n gweithio gyda phobl ifanc o bob cefndir ar draws Cymru. Yn ystod ei hail dymor, bydd Senedd Ieuenctid Cymru yn gweithio gyda 18 sefydliad partner, a dros y misoedd nesaf, byddwn yn cymryd cipolwg ar bob un ohonynt ar ein gwefan ac ar y cyfryngau cymdeithasol.

Yr wythnos hon, rydyn ni'n dod i adnabod GISDA  - elusen sy’n cefnogi pobl ifanc bregus a digartref rhwng 16-25 oed ar draws Gwynedd.

 

Mae gan GISDA ystod eang o brosiectau yn amrywio o Gymorth Tai, Atal Digartrefedd i Ôl-Ofal. Gallent gynnig llety, cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth i helpu pobl ifanc fagu’r hunan hyder, cymhelliant a’r sgiliau i fyw yn annibynnol.

Yma i helpu

 

GISDA

Rydym yn hapus iawn i gyhoeddi ein bod ni’n un o sefydliadau partner Senedd Ieuenctid Cymru 2021-2023. Dyma gyfle amhrisiadwy i berson ifanc berson ifanc gael eu hethol yn gynrychiolydd i rannu’r materion sy’n bwysig i’n holl bobl ifanc ar draws ein gwasanaethau yn y Senedd yng Nghaerdydd. Rydan ni hefyd yn ddiolchgar am y cyfle i gydweithio gyda phartneriaid o sefydliadau eraill sy’n gwneud gwaith pwysig yn cefnogi pobl ifanc ar draws Cymru.

Mae’r cyfle hwn ar agor i’n holl ddefnyddwyr gwasanaeth ar draws ein prosiectau rhwng 11 ac 17 oed. Mae ein prosiectau yn cynnwys Cymorth Tai, Atal Digartrefedd, Ôl-Ofal, Academi Cyfleon, Clwb LHDTC+, Caffi Creu a Hwb ICan. Er mai dim ond un person, o fewn y cyfyngiad oedran, sy’n medru ein cynrychioli rydym yn benderfynol o wneud hwn yn gyfle i bawb ac rydym yn edrych ymlaen at greu cyfleoedd mewnol yma’n GISDA ynghlwm â’r bartneriaeth hon.

Mae sawl person ifanc yn awyddus i gael eu hethol yn ‘Gynrychiolydd GISDA’ ac wrthi’n prysur baratoi eu maniffestos ar gyfer hystingau ac etholiad mewnol yn GISDA ar y 1af o Dachwedd. Ein pobl ifanc yma’n GISDA fydd yn ethol pa berson ifanc fydd yn eu cynrychioli yn y Senedd Ieuenctid Cymru.

Mae lleisiau ein pobl ifanc yn bwysig iawn i ni yma’n GISDA ac ers dechrau Awst 2021 rydym wedi atgyfodi ein Bwrdd Pobl Ifanc. Mae’r cyfarfodydd Bwrdd yn digwydd yn wythnosol, bob yn ail rhwng Caernarfon a Blaenau Ffestiniog, ac mae’r bobl ifanc yn mwynhau’r cyfle i fynegi eu hunain a chryfhau eu hyder.

Mae ymgynghori yn rhan bwysig o’n gwasanaethau ni ac wedi ei integreiddio ym mhob agwedd o’n cefnogaeth. Yn ogystal â hyn yn ddiweddar rhwng y Bwrdd Pobl Ifanc, Clwb LGBTQ+ a’r Hwb ICan rydym wedi bod yn ymgynghori llawer gyda’n pobl ifanc am faterion fel iechyd meddwl, trafnidiaeth, hawliau LHDTC+, yr amgylchedd, digartrefedd ymysg materion eraill. Mae ein cynrychiolwyr gobeithiol wedi mynychu sawl un o’r cyfarfodydd hyn gan ddangos parodrwydd i sicrhau fod lleisiau pawb yn cael eu clywed.

Rydan ni’n edrych ymlaen at rannu ein siwrne hefo chi a chadwch lygad allan ym mis Rhagfyr am gyhoeddiad swyddogol gan Senedd Ieuenctid Cymru ynglŷn â phwy fydd ein cynrychiolydd etholedig!

 

Manylion Cysywllt