"Ni fel pobl ifanc yw dyfodol ein cymuned a dyfodol ein gwlad"

Cyhoeddwyd 17/09/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/05/2021   |   Amser darllen munudau

Dylech bleidleisio er mwyn rhoi llais i’n cenhedlaeth ni.

Helo, Ffion Hâf Jones ydw i. Rwy'n ddisgybl ym mlwyddyn 13 yn Ysgol Llanhari, Rhondda Cynon Taf ac roeddwn yn ddigon ffodus o gael treulio rhai diwrnodau ar brofiad gwaith yn y Cynulliad ym Mae Caerdydd dros yr haf. Tra roeddwn i yno, fe wnes i ddarganfod bod Senedd Ieuenctid yn cael ei sefydlu am y tro cyntaf eleni.

Mae’r Senedd Ieuenctid yn rhoi cyfle arbennig i bobl ifanc 11-17 oed i fod yn rhan o’r Cynulliad a mynegi eu barn am bethau sydd wir angen gwella yn eu barn nhw. Bydd 40 o’r seddi ar gael ar gyfer un person ifanc o bob etholaeth yng Nghymru. Bydd pobl ifanc o bob etholaeth yn penderfynu pwy sydd am eu cynrychioli fel aelod o’r Senedd Ieuenctid. 

IMG_0272.JPG

Yn yr etholiad ym mis Tachwedd, byddaf yn pleidleisio dros rywun i fy nghynrychioli i a fy ardal. Mae pleidleisio yn yr etholiad hwn yn bwysig iawn i mi gan nad ydw i wedi cael y cyfle i bleidleisio o’r blaen.

Rydw i’n derbyn addysg, yn talu treth ar werth wrth brynu pethau mewn siop, a hyd yn oed wedi dechrau gyrru, ond nid wyf wedi cael llais ynglŷn â’r ffordd y mae’r pethau hyn yn gweithio a’r ffordd y caiff y rheolau eu gosod. Ni fel pobl ifanc yw dyfodol ein cymuned a dyfodol ein gwlad. Mae’n hynod bwysig felly ein bod ni’n cael dweud ein dweud am benderfyniadau a fydd yn sicr yn effeithio ar y dyfodol y byddwn yn rhan ohono.

Valley-town.jpeg

Mae fy ardal i, Rhondda Cynon Taf, yn gymuned lle mae llawer o gymdogion yn agos at ei gilydd, a lle mae pawb yn garedig ac yn dod ymlaen yn dda â’i gilydd fel arfer. Er hyn, mae yna broblemau rwyf wedi sylwi arnynt yn fy ardal i sy’n effeithio arnom ni fel y bobl ifanc sydd yn byw yno.

Mae diffyg gweithgareddau allgyrsiol yn broblem fawr. Tu allan i’r ysgol, prin iawn yw’r gweithgareddau y gallwn ni gymryd rhan ynddyn nhw. Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau perfformio neu gelf yn ogystal â rhai chwaraeon. Mae angen bod mwy o weithgareddau o bob math ar gael fel bod gan blant bethau i’w gwneud yn lle aros yn y tŷ yn gwneud dim byd.

I fod yn onest, mae gormod o blant yn aros yn y tŷ yn chwarae llawer o gemau dwl achos nad oes unrhyw beth arall ganddynt i’w wneud. Nid yw hyn yn dda o ran eu hiechyd meddwl a’u llesiant. Hefyd, yn lle gwneud pethau allgyrsiol, mae llawer o bobl ifanc allan ar y stryd yn yfed dan oed oherwydd eu bod wedi diflasu heb ddim i’w wneud.

teen-hiding-face-shoeless-wall.jpg

Yn fy marn i, mae Iechyd meddwl hefyd yn broblem fawr ymysg pobl ifanc yn yr ardal. Nid oes digon o gymorth a chefnogaeth ar gael iddyn nhw. Byddai sicrhau digon o gymorth yn golygu bod llai o blant yn dioddef yn ddistaw. Rwyf hefyd wedi sylweddoli bod Cymreictod yn beth pwysig a bod angen ei gryfhau. Nid yw bobl ifanc yr ardal yn cerdded lawr y stryd yn siarad Cymraeg â’i gilydd oherwydd eu bod yn dewis peidio â gwneud hynny.

Dylech bleidleisio dros aelod o’r Senedd Ieuenctid yn eich ardal chi er mwyn newid eich bywyd a’ch dyfodol a rhoi llais i'n cenhedlaeth ni. Mae’n hawdd iawn cofrestru i bleidleisio ar lein. Efallai mai rhywun rydych yn ei adnabod sy’n sefyll neu efallai eich bod chi am sefyll. Rydw i yn sicr yn mynd i gymryd mantais o’r cyfle gwych hwn i fwrw pleidlais!