Unedig yn Erbyn Bwlio

Cyhoeddwyd 16/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae hi’n wythnos gwrth-fwlio o’r 16eg o Dachwedd hyd at yn 20fed ac eleni, thema’r wythnos ydy ‘Unedig yn erbyn bwlio.’ Golygir y thema hyn I mi ein bod ni I gyd angen gweithio gyda’n gilydd er mwyn datrys y broblem o fwlio.

Un o brif broblemau bwlio ydy fod y dioddefwyr ddim yn teimlo eu bod yn gallu siarad allan am beth maent yn ei brofiadu. Mae bwlio yn ffurf o cam-drin sydd fel arfer yn cynnwys cyflawnwr yn cam-drin tro ar ôl tro. Mae’r cyflawnwr fel arfer yn pigo ar rywun maen nhw’n teimlo sy’n fwy gwan na nhw neu sydd mewn sefyllfa lle nad ydyn nhw’n gallu sefyll I fyny am ei hun, yn methu siarad allan am beth sy’n digwydd iddyn nhw, mewn ofn o beth gall ddigwydd, fod neb yn mynd I’w gredu neu bydd y bwlio yn mynd yn waeth. Felly, yn wythnos gwrth-fwlio, gallwn ni annog pobl I siarad I’w gilydd ac I deimlo’n saff I siarad am beth sy’n digwydd iddyn nhw, I wybod eu bod nhw’n mynd I gael eu cefnogi, heb feirniadaeth.

Agwedd arall sy’n bwysig ei deall yw pam mae’r cyflawnwr yn bwlio. Rydyn ni’n gwybod eu bod nhw fel arfer yn ddioddefwyr eu hunain; Weithiau o drais yn y cartref ac weithiau maent wedi cael eu bwlio eu hunain. Beth sydd yn debygol yw fod y bwli a’r dioddefwr yn dioddef gyda phroblemau iechyd meddwl.

bullying.jpeg

Empathi a dealltwriaeth o bobl eraill sy’n bwysig I’w gofio. Mae’n bwysig I geisio deall beth mae hi fel I sefyll mewn esgidiau rhywun arall a bod yn eu sefyllfa nhw. Mae cymryd cyfrifoldeb am ein gweithredoedd ni yn le da I ddechrau.

Mae’n bwysig hefyd I ddeall effeithiau’r rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol yn ein byd modern ni, yn enwedig gyda’r rôl Newydd sydd wedi cael ei roi iddo ers y pandemig diweddar. Rhaid deall fod rhywbeth sydd yn cael ei sgwennu ar y wê dal yn gallu brifo. Mae yna berson go-iawn tu-ôl I bob cyfrif sydd yn gallu teimlo’n fregus, yn emosiynol ac yn gallu brifo. Gall y casineb sydd yn cael ei hanelu tuag at berson gael ei hamsugno I fod yn deimladau o lefelau o hunan-werth ofnadwy o isel.

Mae’n bryd I ni siarad am fwlio a’r effeithiau mae’n gallu cael ar bawb. Rhaid I ni beidio byth troi I ffwrdd pan mae rhywun yn chwilio am gymorth a fel thema’r wythnos hon, rhaid I ni daclo hwn gyda’n gilydd.