Gadewch i ni Siarad am Iechyd Meddwl

Cyhoeddwyd 09/10/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/05/2021   |   Amser darllen munudau

Lleucu ydw i ac rwy'n aelod o’r Pwyllgor Cymorth Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl, yn cynrychioli Bro Morgannwg yn Senedd Ieuenctid Cymru.

Rydw i ac Aelodau eraill y Pwyllgor wedi bod yn gweithio’n galed ar ein hadroddiad terfynol ‘Gadewch i ni Siarad am Iechyd Meddwl’.

Dros ein hamser ni yn y Senedd, rydyn ni wedi trafod sawl agwedd wahanol ar iechyd meddwl a lles emosiynol a cheisio dod o hyd i atebion y gallwn eu gweithredu o fewn gwahanol rannau o’n bywydau bob dydd. Yn ogystal â hyn, trafodwyd sut mae iechyd meddwl yn cysylltu gyda sawl gwahanol beth yn ein bywydau dyddiol, yn ogystal â phynciau eraill fel y rhai rydym yn eu trafod, a’r effeithiau y gall iechyd meddwl gwael eu cael ar bobl ifanc.

Ers 2019 pan ddechreuon ni ein gwaith, rydym wedi cydweithio â sawl gwahanol sefydliad, mudiad a llawer o bobl wahanol er mwyn ceisio deall sefyllfa iechyd meddwl ym mhob man yng Nghymru. Fodd bynnag, yn bwysicach, roeddem am wybod beth yw ansawdd y cymorth a faint o gymorth sydd ar gael i bob person ifanc yng Nghymru. Rydym wedi trafod sawl gwahanol syniad er mwyn ceisio gwella’r sefyllfa yma yng Nghymru ac wedi ceisio ystyried pob safbwynt er mwyn cynnwys pob person ifanc, ac wedi gwneud hynny drwy lunio holiaduron, cynnal sesiynau a dulliau eraill.

Cyfarfod Pwyllgor Cymorth Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl mis Hydref 2019

Cyfarfod Pwyllgor Cymorth Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl mis Hydref 2019

Fe ddarganfyddom ni rai canlyniadau a wnaeth ein synnu, fel, bod rhai ysgolion neu lefydd cymunedol heb unrhyw gwnselwyr o gwbl ar gael. Mae’n glir nad oes digon o bwyslais yn cael ei roi ar iechyd meddwl pobl ifanc, a’n lles emosiynol ni. Ffeindion ni fod 61% o bobl ifanc yn cael problemau iechyd meddwl neu’n teimlo emosiynau anodd, ac mae dros hanner o bobl ifanc heb gael dim cymorth o gwbl. Mae’n amlwg felly fod yn rhaid i newid ddigwydd, a hynny’n sydyn.

Ar hyn o bryd, mae ansicrwydd ar draws y byd ynglŷn â’r coronafeirws yn achosi straen ar bawb. Mae sefyllfa addysg pobl ifanc yn newid yn ddyddiol ac mae’n glir nawr fod angen i newid digwydd. Mae ein argymhellion i’r Llywodraeth yn cynnwys, cynnig rhagor o wybodaeth sydd yn haws i’w deall ynglŷn â sut mae cael gafael ar gymorth iechyd meddwl ac iechyd emosiynol. Mae angen rhagor o ffyrdd gwahanol o'i drin, a dosbarthu rhagor o wybodaeth am sut i gael help i deuluoedd, ysgolion a mannau eraill o fewn cymunedau lleol.

Mae rhai o ardaloedd tlotaf Ewrop yma yng Nghymru, ac mae hyn yn arwain at ansawdd gwaeth o ran cymorth iechyd meddwl, a hefyd gall arwain at ragor o broblemau iechyd meddwl. Yn ogystal â hyn, mae llawer o straen ar bobl ifanc i wneud yn dda yn eu harholiadau, i lwyddo ar gyfer y dyfodol, heb sôn am straen diweddar yn sgîl y coronafeirws ar bobl ifanc a theuluoedd.

Gwybodaeth i gymryd rhan yn holiadur y Pwyllgor

Gwybodaeth i gymryd rhan yn holiadur y Pwyllgor

Mae hyn wedi tanlinellu i ni pa mor bwysig yw hi i sicrhau bod cymorth ar gael i bob plentyn a person ifanc ledled Cymru, a bod addysg ar iechyd meddwl yn cael ei gynnig yn fwy cynnar ac yn amlach i bawb, er mwyn ceisio atal, datrys a delio gyda phroblemau fel hyn.

Mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr fod plant a phobl ifanc yn gallu teimlo’n saff wrth ddelio gyda phroblemau fel hyn, a theimlo nad ydyn nhw’n unig nac yn cael eu barnu. Mae’n rhaid i’r Llywodraeth geisio deall safbwyntiau pobl ifanc a sut, mewn sawl sefyllfa, maent yn teimlo’n ddiymadferth, yn ogystal â cheisio deall patrymau
bihafio gwahanol, ac arwyddion eraill o salwch meddwl. Dylai pob person Ifanc deimlo’n ddiogel, ac mae’n rhaid cael gwared ar y stigma sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl gwael.

Mae’n rhaid i’r sefyllfa o ran iechyd meddwl a lles emosiynol wella yng Nghymru, ac rydyn ni’n gobeithio fod ein hadroddiad ni yn ddechrau da yn hynny o beth.