Beth i'w wneud gyda'n gwastraff?

Cyhoeddwyd 12/09/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ar y Dydd Gwener, yng nghanol bwrlwm yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst eleni, roeddwn i’n ddigon ffodus o gael cymryd rhan mewn trafodaeth bwysig ynglŷn â gwastraff sbwriel a phlastig. Ar y panel, roedd Talulah, aelod Senedd Ieuenctid dros Dde Clwyd, Llŷr Griffiths, Huw Lloyd, Dr Einir Young a Jerry Hunter.

Roedd gweld oedolion a phobl ifanc yn bresennol ym Mhabell y Cymdeithasau yn ymddiddori yn ein trafodaeth yn wych, gan fod codi ymwybyddiaeth o’r argyfwng hinsawdd yn holl-bwysig. Cefais lawer o sgyrsiau diddorol gydag aelodau o’r cyhoedd ar ôl gorffen y drafodaeth ac roedd llawer o bobl yn awyddus i rannu eu syniadau nhw ar sut i leihau’r defnydd o blastig ac hefyd yr effeithiau y maen nhw wedi’u profi yn uniongyrchol oherwydd y newid hinsawdd.

Eisteddfod Panel.jpg

Gan fod  pump ohonon ni ar y panel, cafwyd llawer o awgrymiadau   gwahanol, er fod y farn gyffredinol yn debyg iawn - fod angen gweithredu rwan.

Cyfeiriodd Dr Einir Young at ddefnyddio dŵr yn unig, a dim siampw wrth olchi gwallt, neu ddefnyddio bâr shampŵ yn hytrach na phrynu potel blastig nifer o weithiau mewn blwyddyn. Yn ogystal â hyn, fe drafodwyd trethu plastig gan roi pwysau ar archfarchnadoedd a’u cyflenwyr i fod yn fwy cyfrifol yn eu defnydd o bacedu plastig. Difyr hefyd oedd profiad Llŷr o ddysgu am ddulliau amgen o greu deunydd tebyg i blastig o wastraff fferm. Cytunodd pawb, er mor bwysig yw parhau i ail-gylchu, ei bod hi’n bwysicach o lawer i leihau yr angen i wneud hynny drwy geisio hepgor defnyddio plastig un defnydd ar fyrder.

Braf oedd cael cyfrannu at y drafodaeth ac yn sicr, teimlaf fy mod wedi dysgu llawer o’r profiad hynnod ddifyr yma.