Adroddiad - Sgiliau Bywyd yn y Cwricwlwm

Cyhoeddwyd 22/10/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae’n ddiwrnod mawr heddiw i Senedd Ieuenctid Cymru wrth iddynt gyhoeddi eu hadroddiad cyntaf

O ystyried yr ansicrwydd presennol ynghylch gwleidyddiaeth y DU a'r byd, mae'r adroddiad hwn yn hynod bwysig oherwydd bydd lleisiau pobl ifanc yng Nghymru, gobeithio, yn torri drwy'r tensiwn gwleidyddol ac yn darparu llwyfan i'n lleisiau gael eu clywed uwchlaw'r sŵn.

Mae'n dangos sut mae democratiaeth yn cynyddu yng Nghymru ac yn dangos bod gan bobl ifanc lais. Mae'n dangos ymroddiad ac ymrwymiad Senedd Ieuenctid Cymru i gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl ifanc. Mae'n dangos mai pobl ifanc sy’n gwybod beth sydd orau i bobl ifanc a bod y gallu gennym ni i gael effaith.

DSC01615.JPG

Mae'r adroddiad hwn yn berthnasol, yn amrywiol, ac yn cynrychioli amrywiaeth o safbwyntiau gan bobl ledled Cymru. Os bydd ein hargymhellion yn cael eu derbyn, mae yma botensial i newid bywydau pobl ifanc ledled Cymru ac i adael gwaddol am flynyddoedd lawer.

Pan fydd yr adroddiad wedi'i gyhoeddi, rydyn ni’n gobeithio y bydd gwleidyddion yn dilyn y cyngor sydd ynddo ac yn cymryd camau ymarferol i bontio'r bylchau mawr o fewn sgiliau bywyd mewn ysgolion ar hyn o bryd. Rydyn ni’n awyddus i weld gwleidyddion yn cyfeirio'n agos at yr adroddiad i ddiwygio Cwricwlwm Cymru ac ymgorffori’r sgiliau bywyd hanfodol y mae pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol addysg yn gofyn cymaint amdanyn nhw.

Mae'n fraint cael bod yn rhan o'r adroddiad cyntaf. Bydd hwn yn sylfaen i lawer o adroddiadau eraill yn y dyfodol.

I ddarllen yr adroddiad llawn, dilynwch y linc isod.

Darllen - Adroddiad Sgiliau Bywyd