Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Kayla McKenzie

Kayla McKenzie

NYAS

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Iechyd Meddwl a Llesiant
  • Addysg a’r Cwricwlwm Ysgol
  • Yr Hinsawdd a'r Amgylchedd

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Kayla McKenzie

Bywgraffiad

Datganiad Ymgeisydd: Fy enw i yw Kayla, rydw i'n 15 oed ac rydw i ym Mlwyddyn 11 yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd, lle rydw i wedi dewis yr Opsiynau Cyfryngau, TGCh a Thrin Gwallt.

Rydw i wedi bod yn cymryd rhan mewn Cyfranogiad yn NYAS Cymru ers tua 18 mis fel aelod o’r Grŵp Cynghori Pobl Ifanc (YPAG) gyda phobl ifanc eraill â phrofiad o ofal ledled Cymru. Fe wnes i ymuno â'r grŵp am y tro cyntaf gan fy mod yn credu y byddai'n gyfle gwych i mi wneud ffrindiau newydd a chwrdd â phlant eraill yn y rhwydwaith maeth. Mae YPAG yn cael ei ymgynghori ar newidiadau i wasanaethau, polisïau a recriwtio NYAS Cymru.  Mae'r grŵp yn helpu i sicrhau bod NYAS Cymru a gwasanaethau a phrosiectau eraill yng Nghymru yn diwallu anghenion y rhai sydd â phrofiad o ofal.  Rydyn ni’n cyfarfod o leiaf ddwywaith y mis ac yn gwneud gweithgareddau hwyliog yn ogystal â gweithgareddau i wneud newidiadau.

Rydwi'n mwynhau mynd i gyfarfodydd achos mae'n ddiddorol gweld lle mae fy llais i'n gallu mynd â fi. Rydw i’n hapus iawn i fod yn gynrychiolydd NYAS Cymru yn y Senedd Ieuenctid oherwydd rydw i'n teimlo ei bod yn bwysig gwrando ar blant a phobl ifanc yn enwedig pan fyddwch wedi bod mewn gofal. Un o'r pethau yr hoffwn ei newid yw'r ffordd y mae pobl ifanc yn eu harddegau yn cael eu labelu fel pobl ddiog pan maen nhw’n cael trafferth gydag iechyd meddwl a TGAU.  Yn bersonol, nid wyf yn credu bod iechyd meddwl pobl ifanc yn eu harddegau yn cael ei gymryd o ddifrif mewn ysgolion neu gyda'r heddlu. Rydw i'n teimlo bod llais pawb yn bwysig, ac rydw i am i bobl ifanc sydd, neu sydd wedi bod, mewn gofal, wybod ei bod yn iawn siarad am yr hyn sy'n eu poeni a gofyn am help. Peth arall rydw i eisiau ei newid yw’r hwtian ar ferched, sy’n gwneud iddyn nhw deimlo'n anghyfforddus.  Rydw i'n teimlo y dylai merched a menywod allu gwisgo beth bynnag maen nhw ei eisiau. Rydw i hefyd am i bobl â niwroamrywiaeth gael yr help sydd ei angen arnyn nhw  yn yr ysgol, y brifysgol/coleg neu yn y gweithle. Yn enwedig y rhai ag awtistiaeth neu ddyslecsia.

Aelodaeth

Digwyddiadau calendr: Kayla McKenzie