Datganiad yr
Ymgeisydd: Rwyf yn angerddol am y materion y mae pobl ifanc yn eu hwynebu mewn
cymdeithas, yr wyf yn angerddol am wleidyddiaeth ac yn credu y dylai ieuenctid
gael llais yn y llywodraeth gan mai ni yw'r genhedlaeth nesaf, ac yn teimlo y
dylai pobl ifanc gael dweud eu dweud am eu dyfodol a dyfodol eu gwlad. Rwy'n
berson ifanc gonest ac yn gweld pob ochr ac amcan, rwy'n agored i bob barn ac
nid wyf yn gwahaniaethu, buaswn yn sefydlu cyfrifon a fforymau cyfryngau
cymdeithasol lle gallai pobl ifanc eraill anfon llythyrau ac argymhellion, ac
yn ddienw pe baent am wneud hynny, buaswn yn annog pob person ifanc i gymryd
rhan ac ychwanegu eu safbwyntiau a thynnu sylw at faterion sy'n bwysig iddyn
nhw. Buaswn yn sefydlu cyfarfodydd hefyd. Rwy'n berson cymdeithasol a hoffwn
ddysgu a darganfod syniadau newydd gan bobl eraill ac rwy'n teimlo y gallwn
gynrychioli ieuenctid Cymru yn deg a chyfleu pwynt pawb.