Mae hwn yn nodi hawl plant a phobl ifanc i fynegi barn ac i'r farn honno gael ei hystyried pan fydd penderfyniadau'n cael eu gwneud ar unrhyw fater sy'n effeithio arnynt.
Mae hyn hefyd yn sail i egwyddorion allweddol gwaith ieuenctid yng Nghymru ac mae'n cael ei adlewyrchu’n glir yn y cwricwlwm newydd i Gymru sydd â'r nod o ddatblygu pobl ifanc i fod yn ddinasyddion Cymru a'r byd sy’n wybodus o ran moeseg. O ganlyniad, mae cefnogi a hyrwyddo Senedd Ieuenctid Cymru yn berthnasol, ac mae'n cynnig profiadau unigryw i bobl ifanc gymryd rhan yn yr ystafell ddosbarth, gartref neu fel rhan o sefydliad ieuenctid.
“Mae bod yn rhan o Senedd Ieuenctid Cymru wedi helpu fy natblygiad personol yn fawr iawn yn ogystal ag ysgogi fy ffrindiau a phobl ifanc rwy’n eu hadnabod i ymddiddori mewn gwleidyddiaeth.”
Talulah Thomas, Aelod Senedd Ieuenctid Cymru 2018-2021
Er mwyn annog cymaint o bobl ifanc â phosibl i gymryd rhan yng ngwaith Senedd Ieuenctid Cymru, mae tîm Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Senedd yn croesawu cefnogaeth ysgolion, colegau a sefydliadau ieuenctid ledled Cymru.
Ein gobaith yw y bydd pobl ifanc o wahanol oedrannau, rhywiau, cefndiroedd cymdeithasol-economaidd, galluoedd ac ethnigrwydd, o bob rhan o Gymru, yn cymryd rhan yng ngwaith Senedd Ieuenctid Cymru mewn rhyw ffordd, naill ai trwy gofrestru i bleidleisio, drwy sefyll mewn etholiad, drwy bleidleisio yn ystod yr etholiad, neu drwy gyfrannu at waith Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru ar faterion sy'n bwysig iddynt.
Mae tîm Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Senedd wedi datblygu amrywiaeth o adnoddau, gweithdai i bobl ifanc a sesiynau hyfforddi i weithwyr proffesiynol i gefnogi'r gwaith o hyrwyddo etholiad Senedd Ieuenctid Cymru. Mae manylion llawn yr adnoddau a'r wybodaeth i gadw lle ar gyfer yr adnoddau, y gweithdai a'r sesiynau hyfforddi am ddim ar gael yn www.seneddieuenctid.cymru neu gallwch e-bostio helo@seneddieuenctid.cymru i gael rhagor o wybodaeth.
Mae llawer o ffyrdd ymarferol y gall ysgolion, colegau a sefydliadau ieuenctid gefnogi Senedd Ieuenctid Cymru, gan gynnwys:
- Cofrestru i gael pecyn marchnata etholiadau Senedd Ieuenctid Cymru
- Defnyddio ein cynlluniau sesiynau Senedd Ieuenctid Cymru neu gofrestru i fod yn rhan o weithdy fel rhan o wasanaeth â thema dinasyddion neu wersi i godi ymwybyddiaeth am waith y Senedd a Senedd Ieuenctid Cymru;
- Defnyddio cynlluniau sesiynau Senedd Ieuenctid Cymru neu gofrestru i fod yn rhan o weithgaredd sefydliad ieuenctid;
- Cofrestru i fod yn rhan o sesiwn hyfforddi cyfoedion ar gyfer aelodau eich cyngor ysgol neu fforwm ieuenctid;
- Hyrwyddo Senedd Ieuenctid Cymru ar gyfryngau cymdeithasol neu mewn cylchlythyrau ac ar wefannau;
- Annog pobl ifanc i gofrestru i bleidleisio yn etholiadau Senedd Ieuenctid Cymru, caniatáu amser yn ystod amser cofrestru, gwersi perthnasol, neu weithgaredd clwb i bobl ifanc rhwng 11 ac 18 mlwydd oed i gofrestru i bleidleisio;
- Annog dadleuon a thrafodaethau dan arweiniad pobl ifanc ar faterion sy'n bwysig iddynt a chyfrannu at ymgynghoriad Senedd Ieuenctid Cymru ar Faterion o Bwys;
- Annog pobl ifanc i sefyll yn yr etholiad i ddod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru a chynnig cefnogaeth i'r bobl ifanc yn ystod y broses ymgeisio;
- Cefnogi pobl ifanc sy'n sefyll yn yr etholiad yn ystod y cyfnod 3 wythnos o bleidleisio, trwy eu helpu i godi ymwybyddiaeth ymysg pobl ifanc eraill mewn ysgol neu fudiad ieuenctid;
- Caniatáu amser yn ystod gwersi, amser cofrestru neu weithgaredd clwb ieuenctid i bobl ifanc ddarllen am yr ymgeiswyr ac i bleidleisio;
- Rhannu gwybodaeth am Senedd Ieuenctid Cymru o fewn eich rhwydweithiau eich hun;
- Annog pobl ifanc i fynd i ddigwyddiadau a drefnir gan Senedd Ieuenctid Cymru;
- Yn dilyn yr etholiad, cymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau ymgynghori Senedd Ieuenctid Cymru i godi ymwybyddiaeth o faterion a ddewiswyd gan bobl ifanc.