Mae ein pobl yn dod o wahanol gefndiroedd ac yn meddu ar lawer o dalentau gwahanol, gyda phawb yn chwarae eu rhan i helpu’r Senedd i weithredu.
Mae gweithio yn un o’n timau’n golygu helpu i gefnogi democratiaeth yng Nghymru.
Mae ein pobl yn dod o wahanol gefndiroedd ac yn meddu ar lawer o dalentau gwahanol, gyda phawb yn chwarae eu rhan i helpu’r Senedd i weithredu.
Mae gweithio yn un o’n timau’n golygu helpu i gefnogi democratiaeth yng Nghymru.
Rydym yn cynnig ystod eang o rolau ar draws gwahanol dimau yng Nghomisiwn y Senedd:
A llawer mwy!

Ymunais â'r Senedd fel Cyfreithiwr dan Hyfforddiant, ac ar ôl cymhwyso, cefais fy nyrchafu'n Gynghorwr Cyfreithiol. Drwy gydol fy nghyfnod hyfforddi, cefais gefnogaeth amhrisiadwy gan gydweithwyr, ac rwy’n parhau i elwa ar eu harweiniad a’r cyfleoedd parhaus ar gyfer datblygiad proffesiynol.
Rwy’n darparu cyngor ar amrywiaeth eang o faterion cyfreithiol cyhoeddus i gydweithwyr yng Nghomisiwn y Senedd, ac i Aelodau o’r Senedd a’u staff cymorth.
Mae pob diwrnod yn y Senedd yn cynnig heriau newydd i mi. Rwyf wedi dysgu cymaint ac rwy'n frwdfrydig am y cyfleoedd i wella fy sgiliau ymhellach a pharhau i ddatblygu fy hun fel cyfreithiwr cyhoeddus.

Rwy’n gyfieithydd testun sy’n arbenigo mewn gwaith deddfwriaethol. Fy ngwaith yw gwneud yn siŵr bod deunydd ar gael yn y Gymraeg a Saesneg fel ei gilydd. Rwy’n gweithio’n agos â chydweithwyr i sicrhau bod eu ceisiadau am gyfieithiadau yn cael eu diwallu.
Uchafbwynt fy ngweithgareddau yn y Senedd oedd cyfansoddi cyfres o englynion i ddathlu 25 mlynedd o ddatganoli, a’u darllen yn y Siambr. Mae bod yn fardd yn gwbl greiddiol i bwy ydw i, ac rwy’n ddiolchgar i’r
Senedd am gofleidio hynny.

Mae fy ngyrfa yn adlewyrchu diwylliant cynhwysol y Senedd a'r cyfleoedd i dyfu, sydd wedi fy helpu i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy ar draws rolau amrywiol.
Rwy'n falch o gyfrannu at y gwaith o gefnogi’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol drwy ei waith craffu i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rwy'n mwynhau cydweithio â thîm integredig arloesol yn y Senedd tra’n galluogi lleisiau rhanddeiliaid a'r cyhoedd drwy ymgynghoriadau a gychwynnwyd gan y Pwyllgor.
Fel Cadeirydd y Rhwydwaith Mindful, rwy’n hyrwyddo lles meddyliol a gwerth seibiannau adferol, yn enwedig y rhai sy’n ymwneud â natur a symud.

Rwy'n gweithio yn nhîm TGCh lle rwy'n adeiladu cymwysiadau ar y we sy'n helpu timau i gyflawni eu tasgau busnes gyda gwell effeithlonrwydd a manwl gywirdeb. Rwy'n mwynhau cydweithio â gwahanol dimau ac ymgymryd â hyfforddiant i ennill ardystiadau proffesiynol fel ITIL ac AgilePM.
Rwyf wedi mwynhau manteisio ar gyfleoedd unigryw yn y Senedd, fel lledaenu ymwybyddiaeth am etholiad y Senedd 2026 drwy ffilmio fideos ‘cyfri’r diwrnodau’ fel rhan o ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol.