Os felly, ein ‘Sesiwn Codi Llais’ newydd sbon – sy'n archwilio ein hymgynghoriad, ‘Fy Niwrnod Ysgol’ – yw’r fforwm perffaith i chi.
Os felly, ein ‘Sesiwn Codi Llais’ newydd sbon – sy'n archwilio ein hymgynghoriad, ‘Fy Niwrnod Ysgol’ – yw’r fforwm perffaith i chi.
Sesiwn dan arweiniad llawn: Mae pecyn y Sesiwn Codi Llais yn eich arwain gam wrth gam, mewn modd esmwyth sy’n cynnig ffordd effeithiol o ymgysylltu â’r cwestiynau.
Ymgysylltu â grwpiau ffocws: Paratoi pobl ifanc i arwain eu grwpiau ffocws eu hunain, rhannu eu syniadau, a chyfrannu at ymgynghoriad Senedd Ieuenctid Cymru, 'Fy Niwrnod Ysgol'.
Effaith ledled y wlad: Mae’r Sesiwn Codi Llais yn ddelfrydol ar gyfer cynghorau ysgol sydd newydd eu hethol, ac yn cynnig cyfle unigryw i gyfrannu at sgwrs genedlaethol sy'n effeithio'n uniongyrchol arnoch chi.
Hyblygrwydd a chynhwysiant: Boed yn eich ysgol, clwb ieuenctid, neu ymhlith ffrindiau, gellir addasu’r Sesiwn Codi Llais ar gyfer unrhyw leoliad. Fe allwch chi ei gwneud yn rhan naturiol o’ch gwersi, neu o weithgareddau eich clwb.
Fideo mewnwelediad: Cewch ganfod y sgŵp mewnol gan Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru sydd ar y Pwyllgor Cwricwlwm Addysg ac Ysgolion. Bydd yn rhannu'r gwaith dylanwadol y mae wedi bod yn ei wneud.
Drwy gymryd rhan, byddwch yn helpu i lunio adroddiad a fydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru fis Tachwedd hwn.