Ein hanes

Cyhoeddwyd 17/05/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/08/2022   |   Amser darllen munudau

Ein stori ni

Pan sefydlwyd y Senedd ym 1999, crëwyd Gwasanaeth Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc pwrpasol, gan roi cyfle i blant a phobl ifanc yng Nghymru ddysgu am waith y Senedd a chymryd rhan ynddo.

Ers hynny, mae tîm Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Senedd wedi gweithio gyda degau ar filoedd o blant a phobl ifanc ledled Cymru, gan rannu gwybodaeth a chynnwys pobl ifanc yng ngwaith y Senedd.

Darganfod. Dadlau. Dewis.

Erbyn hyn, mae'r siambr drafod wreiddiol a ddefnyddiwyd gan Aelodau o'r Senedd (1999-2007) yn gartref i ganolfan addysg y Senedd, Siambr Hywel. Yma, gall grwpiau ddysgu am waith y Senedd, trafod materion a darganfod sut y gallant gymryd rhan a chyfrannu at benderfyniadau a wneir gan Aelodau o'r Senedd.

Mae’r tîm Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc hefyd yn cynnig gweithgareddau a chyfleoedd i drafod gwaith y Senedd a materion gwleidyddol mewn ysgolion a cholegau, yn ogystal â grwpiau a chlybiau y tu hwnt i’r amgylchedd addysg, ledled Cymru.

Dangos ymrwymiad - llofnodi'r Siarter Ymgysylltu â Phobl Ifanc

Er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yng Nghymru yn gallu mynegi eu barn a bod rhywun yn gwrando arnynt, llofnododd y Senedd Siarter Ymgysylltu â Phobl Ifanc yn 2014. Mae’r Siarter yn nodi ymrwymiad y Senedd i sicrhau ei bod yn gwrando ar yr hyn mae pobl ifanc ledled Cymru yn ei ddweud, yn parchu hynny ac yn gweithredu arno.

Roedd y Siarter yn cynnwys ymrwymiad i’w gwneud yn haws i bobl ifanc ddysgu mwy am y Senedd a’r hyn mae’n ei wneud, cymryd rhan mewn dadleuon a dysgu sut mae eu cyfraniadau’n gwneud gwahaniaeth.

Aelodau

Sicrhau newid – Senedd Ieuenctid i Gymru

Ers i'r Senedd wneud ei hymrwymiad, dywedodd llawer o bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol (gyda chefnogaeth yr Ymgyrch am Gynulliad Plant a Phobl Ifanc i Gymru) wrth Senedd Cymru yr hoffent sefydlu Senedd Ieuenctid Cymru.

Cytunodd yr Aelodau o’r Senedd.

Ym mis Hydref 2016, pleidleisiodd Aelodau o’r Senedd i sefydlu senedd ieuenctid penodedig i Gymru.

Ymgynghorodd y Senedd â dros 5,000 o bobl ifanc o bob rhan o Gymru i helpu i benderfynu ar nod, aelodaeth a gwaith Senedd Ieuenctid Cymru.

Etholwyd Senedd Ieuenctid cyntaf Cymru ym mis Rhagfyr 2018, a threuliwyd y ddwy flynedd wedi hynny yn gweithio gyda’i gilydd, gydag Aelodau o’r Senedd a gyda phobl ifanc o bob rhan o Gymru i godi ymwybyddiaeth o faterion ac i alw am newid, yn enwedig ar y tri mater y dewisodd Aelodau Senedd Ieuenctid cyntaf Cymru eu blaenoriaethu:

  1. Sgiliau Bywyd yn y Cwricwlwm
  2. Cymorth Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl
  3. Sbwriel a Gwastraff Plastig

Mae'r bennod nesafwedi dechrau

Mae'r 60 Aelod nesaf ar gyfer Senedd ieuenctid Cymru wedi cael eu hethol ar gyfer 2021-23! Cawson nhw gyfarfod yn Ionawr ac yn Chwefror fe wnaethon nhw eu hareithiau cyntaf yn y Cyfarfod Plenari cyntaf. Mi oedden nhw'n areithiau llawn ysbrydoliaeth. Gwyliwch nhw ar senedd.tv 

Y 3 pwnc nater newydd a ddewiswyd oedd: 

  • Yr Hinsawdd a'r Amgylchedd
  • Addysg a'r Cwricwlwm Ysgol a 
  • Ein Hiechyd Meddwl a'n Lles

Mi fydd y misoedd nesaf yn gweldf Aelodau'n dechrau gweithio ar y pynciau yma ar rhan pobl ifanc Cymru.