Cofrestru i bleidleisio

Dy lais di, dy Senedd di

WYT TI’N BAROD I LUNIO’R DYFODOL?

Cofia mai cofrestru i bleidleisio yn etholiadau Senedd Ieuenctid Cymru yw dy gam cyntaf tuag at wneud gwahaniaeth!

Os wyt ti rhwng 11 a 17 mlwydd oed, dyma dy gyfle i bleidleisio ar y materion sy'n bwysig i ti.

Pwy all gofrestru?

I gofrestru i bleidleisio yn Etholiad Senedd Ieuenctid Cymru, rhaid i chi fod rhwng 11 a 17 oed, a naill ai’n byw, neu’n derbyn eich addysg, yng Nghymru.

Cofrestra i bleidleisio ar-lein

Fel arfer mae'n cymryd llai na munud i gofrestru.

 

Yr hyn y mae angen i ti ei wybod

I gofrestru gofynnir am dy enw, dy ddyddiad geni, dy god post a’th gyfeiriad e-bost.

Mae hefyd yn ddewisol i chi ddarparu rhif eich ffôn symudol, a ble rydych yn derbyn eich addysg. 

I gwblhau’r cofrestru, rhaid i ti glicio neu bwyso'r linc yn dy neges e-bost dilysu i gadarnhau.

Mae'r pleidleisio yn agor ar 4 Tachwedd 2024 ac yn cau ar 25 Tachwedd 2024.