Hysbysiad Preifatrwydd Cofrestru Pleidleiswyr

Cyhoeddwyd 27/05/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/06/2024   |   Amser darllen munudau

Ein Manylion Cyswllt

Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynghylch sut y bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio at y Swyddog Diogelu Data yn:

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Senedd Ieuenctid Cymru, cysylltwch â thîm Senedd Ieuenctid Cymru yn: helo@seneddieuenctid.cymru

Sut y bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio

Bydd y wybodaeth rydych yn ei darparu yn cael ei defnyddio i’ch galluogi i gofrestru a phleidleisio yn etholiadau Senedd Ieuenctid Cymru. Pan fyddwch chi'n cofrestru i bleidleisio, fe fyddwch chi'n rhoi’ch manylion cofrestru i gwmni o'r enw Assembly Voting, sy'n rheoli’r broses o gofrestru a phleidleisio yn yr etholiad hwn ar ran Senedd Ieuenctid Cymru.

Gellir dod o hyd i bolisi preifatrwydd Assembly Voting yn https://assemblyvoting.com/privacy/.

Ar y dudalen gofrestru, byddwch hefyd yn cael cyfle i optio i mewn i gael gwybodaeth sy'n gysylltiedig â’r Senedd Ieuenctid y tu hwnt i gwmpas yr etholiad, gan gynnwys y newyddion a'r cyfleoedd diweddaraf i gyfrannu at waith Senedd Ieuenctid Cymru, megis trwy arolygon a digwyddiadau. Nid oes rhaid i chi optio i mewn i allu cofrestru a phleidleisio yn etholiadau'r Senedd Ieuenctid a gallwch optio allan ar unrhyw adeg fel y nodir yn yr adran 'Pam rydym yn ei chasglu?' o’r hysbysiad hwn.

Mae Assembly Voting yn rheoli (neu'n 'prosesu') y wybodaeth a roddwch ar ein rhan ni, Comisiwn y Senedd. Nid yw'r Senedd Ieuenctid yn endid cyfreithiol ynddo'i hun, ac felly Comisiwn y Senedd, fel y corff corfforaethol sy'n gwasanaethu Senedd Cymru (y Senedd), sy'n 'rheoli'r' wybodaeth rydych chi'n ei darparu. Mae hyn yn golygu ein bod ni'n gyfrifol am sicrhau bod eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio mewn modd priodol.

Mae'r hysbysiad hwn yn nodi'r hyn y byddwn ni, sef Comisiwn y Senedd, yn ei wneud â'ch gwybodaeth gofrestru.

Beth yw'r wybodaeth?

Er mwyn cofrestru a phleidleisio yn etholiadau WYP, mae arnom angen eich: 


• Enw;
• Dyddiad Geni;
• Cod post;
• Enw eich ysgol; a
• Cyfeiriad ebost.


Gallwch hefyd roi eich rhif ffôn symudol, er nad oes rhaid i chi wneud hynny er mwyn cofrestru a phleidleisio. Os byddwch yn dewis darparu eich rhif ffôn symudol ac nad ydych yn optio i mewn i dderbyn diweddariadau ychwanegol sy’n ymwneud â Senedd Ieuenctid Cymru, dim ond at ddibenion penodol sy’n ymwneud â’r etholiad y caiff ei ddefnyddio, yn bennaf i’ch atgoffa pan fydd pleidlais ar agor, a dolenni i’r gwefan lle gallwch chi bleidleisio.

Pam rydym yn ei chasglu?

Rhan o’n rôl yw ymgysylltu â holl bobl Cymru ar ran y Senedd. Fel senedd genedlaethol, mae'n bwysig bod y Senedd yn gallu gwrando ar farn a safbwyntiau dinasyddion Cymru er mwyn llywio ei waith yn well. Mae hyn hefyd yn helpu i ddangos i ddinasyddion bod eu barn wedi helpu i ddylanwadu ar ein gwaith, sy'n amcan strategol i Gomisiwn y Senedd.

Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu â dinasyddion o wahanol oedrannau. Mae'r Senedd Ieuenctid yn fenter allweddol sy'n ein galluogi i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc yn well ac ystyried eu barn. Mae gwneud hynny hefyd yn rhoi llwyfan i blant a phobl ifanc nodi a thrafod eu barn mewn amgylchedd diogel, rheoledig ar bynciau sy'n bwysig i blant a phobl ifanc. Mewn rhai achosion, gall hyn helpu i lywio dadleuon yn y Senedd ei hun a dylanwadu ar bolisi'r llywodraeth.

Mae Senedd Ieuenctid Cymru hefyd yn gweithredu fel offeryn addysgol. Trwy ddefnyddio'r Senedd Ieuenctid i gynnal etholiadau, darparu llwyfan ar gyfer trafodaeth ac, yn y pen draw, galluogi plant a phobl ifanc i ffurfio casgliadau ar feysydd diddordeb allweddol, gallwn roi blas ar sut mae Senedd yn gweithredu mewn cymdeithas ddemocrataidd. Y gobaith yw drwy ymgysylltu â phlant a phobl ifanc fel hyn, y bydd Senedd Ieuenctid Cymru yn helpu i gyflawni'r nod ehangach o gefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd.

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio i gofrestru'ch manylion ar gyfer pleidleisio yn etholiadau Senedd Ieuenctid Cymru. Bydd Assembly Voting yn casglu'r data hyn ar ein rhan er mwyn:

  • mynd i'r afael ag unrhyw faterion sy'n codi yn sgil cofrestriadau;
  • anfon nodiadau atgoffa at unigolion sydd wedi cofrestru ond heb bleidleisio;
  • gweinyddu cofrestriadau a'r etholiad, megis drwy wirio cymhwysedd a diogelu rhag dyblygu cofrestriadau.

Bydd opsiwn i chi ddewis ar y dudalen gofrestru a fyddai'n eich galluogi i gael diweddariadau gan Senedd Ieuenctid Cymru y tu hwnt i'r etholiad. Os byddwch yn dewis optio i mewn, byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod am y newyddion diweddaraf sy'n ymwneud â Senedd Ieuenctid Cymru, a chyfleoedd i gyfrannu at waith y Senedd Ieuenctid yn barhaus, megis digwyddiadau ac arolygon ar faterion y mae Senedd Ieuenctid Cymru yn eu blaenoriaethu. Gallwch optio allan ar unrhyw adeg yn ystod cyfnod yr etholiad drwy fewngofnodi i'ch cyfrif a dileu’r tic o’r blwch ticio. Yn dilyn cyfnod yr etholiad, gallwch optio allan drwy gysylltu â ni yn helo@seneddieuenctid.cymru.

Pwy fydd yn gallu cael gafael ar y wybodaeth?

Bydd gan staff Comisiwn y Senedd a staff Assembly Voting sy'n gweithio ar yr etholiad fynediad i'ch gwybodaeth. Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu ag unrhyw drydydd partïon eraill.

Yn ystod yr amser y byddwch wedi'ch cofrestru i bleidleisio, os byddwn yn newid ein partner a bod sefydliadau trydydd parti gwahanol yn disodli rôl Assembly Voting, byddwn yn ysgrifennu atoch ac yn eich hysbysu am unrhyw newid o'r fath. Wrth wneud hynny, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw effaith y mae hynny’n ei chael ar drin eich gwybodaeth. At hynny, gallwch ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth.

Ble bydd y wybodaeth yn cael ei chadw?

Gweler hysbysiad preifatrwydd Assembly Voting i gael manylion am sut y byddan nhw’n cadw’ch gwybodaeth. Bydd y wybodaeth a rennir â Chomisiwn y Senedd yn cael ei chadw’n ddiogel ar ein systemau TGCh sy'n cynnwys gwasanaethau cwmwl trydydd parti a ddarperir gan Microsoft. Mae unrhyw drosglwyddo data gan Microsoft y tu allan i'r AEE yn dod o dan gymalau cytundebol lle mae Microsoft yn sicrhau bod data personol yn cael eu trin yn unol â deddfwriaeth Ewropeaidd. I gael rhagor o wybodaeth am sut y bydd Microsoft yn defnyddio'ch gwybodaeth, gallwch ddarllen datganiad preifatrwydd y cwmni yma. 

Am ba hyd y cedwir y wybodaeth?

Gweler hysbysiad preifatrwydd Assembly Voting i gael manylion am ba mor hir y byddan nhw’n cadw'ch gwybodaeth. Bydd Comisiwn y Senedd yn cadw'ch gwybodaeth ac yn cynnal eich cofrestriad hyd nes na fyddwch yn gallu pleidleisio yn etholiadau Senedd Ieuenctid Cymru mwyach (h.y. pan fyddwch yn 18 oed). Bydd hyn yn caniatáu ichi: bleidleisio pe bai'n ofynnol i Gomisiwn y Senedd gynnal isetholiad; ac i gymryd rhan yn etholiadau Senedd Ieuenctid Cymru yn y dyfodol.

Sut fyddwn ni’n cael gwared ar eich gwybodaeth?

Bydd gwybodaeth yn cael ei dileu yn ddiogel.

Ein sail gyfreithiol ar gyfer casglu, cadw a defnyddio'ch gwybodaeth bersonol

Mae cyfraith diogelu data yn ei gwneud yn ofynnol i ni sicrhau bod gennym reswm da (yr hyn a elwir yn 'sail gyfreithiol') i gasglu a defnyddio'ch gwybodaeth.

Mae Comisiwn y Senedd yn chwarae rhan hanfodol wrth ymgysylltu â phobl ifanc yng Nghymru ar ran y Senedd. Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn offeryn pwysig sy'n caniatáu inni wneud hynny, ac mae hwyluso etholiadau i Senedd Ieuenctid Cymru yn hanfodol i ni wneud yn siŵr bod cymaint o bobl ifanc â phosibl yn ymgysylltu â Senedd Ieuenctid Cymru, ac yn teimlo eu bod nhw’n gallu cymryd rhan.

Er nad yw Senedd Ieuenctid Cymru yn endid cyfreithiol ynddo'i hun, fe'i sefydlwyd i ganiatáu i bobl ifanc yng Nghymru leisio'u barn, ac er mwyn rhoi profiad uniongyrchol i bobl ifanc o’r modd y mae gwleidyddiaeth yn gweithio. Yn y broses o gynnal yr etholiad, felly, rydym hefyd yn gobeithio addysgu pobl ifanc am y Senedd, y broses ddemocrataidd a gwleidyddiaeth Cymru’n gyffredinol. Mae hyn yn rhan o swyddogaeth gyhoeddus y Comisiwn i gefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd.

Rydym, felly, yn casglu ac yn defnyddio'ch gwybodaeth i gyflawni tasg er budd y cyhoedd.

Weithiau byddwn yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn seiliedig ar eich cytundeb. Gelwir hyn yn 'gydsyniad'. Byddwn bob amser yn dweud wrthych ble mae hyn yn wir ac yn gofyn i chi gytuno cyn i ni gasglu eich gwybodaeth. Er enghraifft, os byddwch yn optio i mewn, rydym yn cynnig y cyfle i chi danysgrifio i ddiweddariadau pellach am SIC a’i waith.

Gallwch optio allan unrhyw bryd yn ystod cyfnod yr etholiad drwy fewngofnodi i'ch cyfrif a dad-diciwch y blwch ticio. Yn dilyn cyfnod yr etholiad, gallwch optio allan drwy gysylltu â ni yn helo@seneddieuenctid.cymru. I ddarganfod mwy am yr hyn y byddwn yn ei wneud gyda’ch data pan fyddwch yn optio i mewn, gweler ein hysbysiad preifatrwydd Senedd Ieuenctid Cymru llawn: Hysbysiad Preifatrwydd Llawn (senedd.cymru).

Nid ydym yn rhagweld y byddwn yn casglu unrhyw wybodaeth bersonol sensitif amdanoch, at ddibenion cofrestru ar gyfer etholiad Senedd Ieuenctid Cymru.

Eich hawliau

Fel gwrthrych data, mae gennych nifer o hawliau. Mae'r hawliau sy'n gymwys yn dibynnu ar y seiliau cyfreithiol rydym yn dibynnu arnynt i ddefnyddio'ch gwybodaeth bersonol. Ni fydd yr hawliau hynny'n gymwys ym mhob achos, a bydd y Comisiwn yn cadarnhau a yw hynny'n wir ai peidio pan fyddwch chi'n gwneud cais.

Mae'r hawliau'n cynnwys yr hawl i ofyn am fynediad at eich gwybodaeth bersonol eich hun, a elwir weithiau yn 'gais gwrthrych am wybodaeth'.

Hefyd, mae gennych hawl i wneud cais gennym ni:

  • bod unrhyw wybodaeth anghywir sydd gennym amdanoch yn cael ei chywiro (nodwch fod gofyn i chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am unrhyw newidiadau o ran eich gwybodaeth bersonol);
  • bod gwybodaeth amdanoch chi yn cael ei dileu (mewn rhai amgylchiadau);
  • ein bod yn rhoi'r gorau i ddefnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion penodol neu mewn rhai amgylchiadau; ac
  • bod eich gwybodaeth yn cael ei darparu i chi neu drydydd parti mewn fformat cludadwy (eto, mewn rhai amgylchiadau).

Os hoffech arfer unrhyw un o'r hawliau sydd gennych o dan y ddeddfwriaeth diogelu data, gofyn cwestiwn neu gwyno am y ffordd y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data drwy un o’r dulliau a ddangosir uchod.

Ceisiadau am wybodaeth a wneir i’r Comisiwn

Os gwneir cais am wybodaeth o dan ddeddfwriaeth mynediad at wybodaeth, mae’n bosibl y bydd angen datgelu’r wybodaeth a gawsom gennych yn llawn neu’n rhannol. Dim ond os yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith y byddwn yn gwneud hynny.

Sut i gwyno

Gallwch gwyno i'r Swyddog Diogelu Data os ydych yn anhapus â sut rydyn ni wedi defnyddio'ch data. Gellir gweld y manylion cyswllt uchod. Os byddwch, yn dilyn cwyn, yn parhau i fod yn anfodlon â'n hymateb, gallwch hefyd gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Dyma gyfeiriad y Comisiynydd Gwybodaeth:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth / Information Commissioner’s Office
Wycliffe House 
Water Lane 
Wilmslow 
Cheshire 

Rhif y llinell gymorth: 0303 123 1113