Digwyddiadau Senedd Ieuenctid Cymru

Gwybodaeth am lle y gallwch chi ein dal ni ledled Cymru.

Senedd Ieuenctid Cymru - Adeiladu'r Dyfodol Gyda'n Gilydd

Dewch i ymweld â'n harddangosfa Senedd Ieuenctid Cymru yn adeilad y Senedd, ar agor o 24 Chwefror 2024 - 18 Mai 2024. Cynhaliodd Senedd Ieuenctid Cymru ei hetholiad cyntaf yn 2018. Mae’n llwyfan i godi lleisiau pobl ifanc ar y materion sy’n bwysig iddyn nhw. Mae’r arddangosfa hon yn edrych ar waith ail Senedd Ieuenctid Cymru.