Yr Hinsawdd a'r Amgylchedd - SIC2

Rydym bellach wedi lansio ein hadroddiad Ffyrdd Gwyrdd.

Darllena neu lawrlwytha:

Adroddiad Ffyrdd Gwyrdd

 

Gweithgaredd pwyllgor diweddaraf

Gwaith Cyfredol

Symud y Pwyllgor yn eu blaen

Wedi hir ymaros, ddydd Sadwrn, Gorffennaf 2il, cynhaliwyd cyfarfod wyneb yn wyneb cyntaf y Senedd Ieuenctid ers y panedmig!

Bu’r Pwyllgor hwn yn canolbwyntio ar ddifrifoldeb y sefyllfa o ran newid hinsawdd yn ffocws i’r Pwyllgor hwn; maent yn awyddus i olrhain cynnydd targedau’r Llywodraeth o ran allyriadau sero carbon a phlannu coed, ac i  sgyrsio gyda Gweinidog yr Amgylchedd, swyddogion y Llywodraeth a chwmnïau am eu rôl hanfodol. Beth am ffoaduriaid newid hinsawdd? Bagiau mawn? Trafnidiaeth cyhoeddus am ddim i bobl ifanc? Bu’r syniadau’n byrlymu ac roedd gan y Pwyllgor ymdeimlad cadarn am yr angen i weithredu.

Cyfarfod Pwyllgor HInsawdd a'r Amgylchedd - Penwythnos Preswyl SIC a chyfarfod dilynol

Cyfarfu'r Pwyllgor Hinsawdd a'r Amgylchedd ar brynhawn y 26ain o Dachwedd i wrando ar arbenigwyr Newid Hinsawdd a'u holi ar y ffordd orau y gallai'r Pwyllgor symud ymlaen â'u gwaith. Ymhlith y gwesteion roedd:
1) Cyswllt Amgylchedd Cymru
2) Jane Davidson, Sero Net Cymru 2035 a
3) Dr. Anna Pigott (Daearyddwr HUman ym Mhrifysgol Abertawe)
Roedd y wybodaeth a'r ysbrydoliaeth yn enfawr ac roedd yr arbenigwyr yn galonogol ac yn weledigaethol ac am hynny hoffem ddiolch yn fawr iddyn nhw.
Yn dilyn cyfarfod dilynol ac ar ôl cael amser i brosesu'r holl wybodaeth a rannwyd fe wnaethom bleidleisio dros ein prif bwnc i symud y gwaith ymlaen. Ein dewisiadau oedd:
1) Bioamrywiaeth
2) Trafnidiaeth Cyhoeddus
3) Ymgyrchoedd amgylcheddol ysgolion

Roedd y bleidlais o blaid canolbwyntio ar drafnidiaeth gyhoeddus gydag ymgyrchoedd amgylcheddol ysgolion fel is-thema yn y cefndir. Cadwch lygaid allan am ein arolwg a fydd allan tua canol Chwefror eleni.

Aelodau'r Pwyllgor