Cyfarfod wyneb yn wyneb cyntaf y Senedd Ieuenctid ers y Pandemig

Cyhoeddwyd 11/07/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/07/2022   |   Amser darllen munudau

Beth ddigwyddodd a phryd

Wedi hir ymaros, ddydd Sadwrn, Gorffennaf 2il, cynhaliwyd cyfarfod wyneb yn wyneb cyntaf y Senedd Ieuenctid ers y panedmig! Cynhaliwyd 3 cyfarfod ar draws Cymru a hynny er mwyn i Aelodau allu cwrdd â phobl ifanc eraill yn eu rhanbarthau. Cynhaliwyd y cyfarfodydd yng Nghasnewydd, Caerfyrddin a Lladudno.

Beth wnaethom ni?

Yn naturiol ddigon, roedd y profiad yn ei gyfanrwydd yn un cyffrous ond hefyd yn brofiad newydd felly doedd dim amdani I bob Aelod ond ymdaflu i’r profiad, dod i adnabod ei gilydd a dechrau trafod materion pwysig y dydd a’u blaenoriaethau fel Senedd Ieuenctid.

 Symud y Pwyllgorau yn eu blaen

Cafwyd sgyrsiau tanbaid ym mhob rhanbarth gyda phawb yn awyddus i gyfrannu, chwarae rhan a dwyn y Llywdoraeth i gyfrif yn eu maes penodol. Dyma’r hyn a drafodwyd:

Addysg a’r Cwricwlwm Ysgol

Mae cymaint o bynciau i’w hystyried yma, yn eu plith ystyriaethau ar gyfer pobl ifanc ag anableddau, Materion yn ymwneud â hil, materion LGBTQ+, rhagenwau, addysg ailgylchu, y pwysau yn sgil arholiadau, y Bac a phersonoli’r Cwricwlwm. Mae’r Pwyllgor yn angerddol ynghylch cymaint o faterion ac yn awyddus i wneud yn siŵr eu bod yn drylwyr wrth asesu effeithiau’r Cwricwlwm newydd i Gymr

Ein Hiechyd Meddwl a'n Lles

Y Pwyllgor hwn sy’n gweithio i’r terfyn amser tynnaf ar hyn o bryd oherwydd eu bod ar fin lansio ymgynghoriad! Cynhaliwyd sawl sgwrs ddifyr am geisio cyrraedd pobl Ifanc y tu allan i fyd addysg yn ogystal a’r tu mewn iddo, gan sicrhau fod ystyriaethau ynghylch hil, pa mor hir y mae pobl Ifanc yn dioddef poen iechyd meddwl a pha mor ddigonol yw’r gefnogaeth, yn faterion o bwys. Mae’r Pwyllgor yn edrych ymlaen at lansio eu ymgynhoriad o fewn y mis a rhoi iechyd meddwl o dan y chwyddwydr mewn trafodaethau ar stondiau’r Senedd yn y Sioe Frenhinol, a’r Eisteddfod Genedlaethol Nhregaron eleni.

Yr Hinsawdd a’r Amgylchedd

Bu’r Pwyllgor hwn yn canolbwyntio ar ddifrifoldeb y sefyllfa o ran newid hinsawdd yn ffocws i’r Pwyllgor hwn; maent yn awyddus i olrhain cynnydd targedau’r Llywodraeth o ran allyriadau sero carbon a phlannu coed, ac i  sgyrsio gyda Gweinidog yr Amgylchedd, swyddogion y Llywodraeth a chwmnïau am eu rôl hanfodol. Beth am ffoaduriaid newid hinsawdd? Bagiau mawn? Trafnidiaeth cyhoeddus am ddim i bobl ifanc? Bu’r syniadau’n byrlymu ac roedd gan y Pwyllgor ymdeimlad cadarn am yr angen i weithredu.

Hyfforddiant gan Brook

Cawsom gwmni hen gyfaill i’r Sendd Ieuenctid a fu’n rhan o’i thîm staffio cyntaf, sef Kelly Harris. Bu Kelly yn ein haddysgu mewn modd rhyngweithiol am bwysigrwydd parch mewn perthynas. Cawsom yr her o geisio adnabod baneri rhywioldeb a rhywedd. Dysgom am bwysiogrwyd parchu unigolion ar sail eu gwahaniaethau a’u dewisiadau o ran y materion o dan sylw. Diolch, Kelly!