Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Qahira Shah

Qahira Shah

De Caerdydd a Phenarth

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Cynorthwyo pobl ddigartref a ffoaduriaid
  • Lleihau prisiau tocynnau trafnidiaeth
  • Creu mannau cymdeithasol ar gyfer ieuenctid

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Qahira Shah

Bywgraffiad

Datganiad yr ymgeisydd: Mae Cymru yn wlad amrywiol a chynnes a'i phobl ifanc yw ei dyfodol. Er mwyn sicrhau bod Cymru yn cynnal ei diwylliant, ei hamgylchedd a’i chymeriad teuluol a chroesawgar, mae angen pobl arnom sy'n deall pob cymuned ac sydd bob amser yn barod i ddysgu. Rhywun sy'n awyddus i ddangos dealltwriaeth gyda phobl o bob cefndir; yn anad dim rhywun sy'n barod i sicrhau newid ar ein strydoedd, yn ein hysgolion ac yn ein gweithleoedd.

Rwy'n credu bod angen clywed ein lleisiau ac felly credaf fy mod i'n unigolyn sy'n ddigon hyderus i sicrhau bod pawb yn gallu dweud eu dweud a gweld canlyniadau. Rwy'n deall yr heriau o fod yn fy arddegau, boed yn faterion yn ymwneud â'r amgylchedd, y cyfryngau cymdeithasol neu iechyd meddwl. Mae gen i lawer o syniadau ar wella Cymru ac rwy’n awyddus i glywed mwy o safbwyntiau.

Rwy'n aelod o gyngor ieuenctid Caerdydd ac rwy'n aml yn rhyngweithio â phobl ifanc eraill sydd â diddordeb mewn gwneud newid yng Nghaerdydd. Rydw i hefyd yn deall materion sy’n ymwneud ag amrywiaeth, alcohol a chyffuriau, iechyd meddwl, materion ar y stryd, bwlio a'r cyfryngau cymdeithasol. Rwy'n ymwybodol o’r hyn y mae plant fy oedran i yn ei feddwl o Gymru a'r Senedd a bydd hyn o gymorth imi pe bawn i'n dod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 01/12/2021 -

Digwyddiadau calendr: Qahira Shah