Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Hermione Vaikunthanathan-Jones

Hermione Vaikunthanathan-Jones

Gŵyr

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Cyfryngau cymdeithasol ac iechyd ieuenctid
  • Gweithredu ieuenctid ar gyfer yr amgylchedd
  • Addysg mewn pandemig

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Hermione Vaikunthanathan-Jones

Bywgraffiad

Datganiad Ymgeisydd: Helo, Hermione ydw i, dwi'n byw ar Benrhyn Gŵyr. Mae fy nhad yn Brydeiniwr o Sri Lanka, ac mae fy mam yn Gymraes. Dw i'n Gymraes, ac yn caru Cymru. Rwy'n dysgu siarad Cymraeg.

Mae cael barn fel person ifanc yn bwysig iawn. Mae'n hanfodol bod lleisiau fy nghenhedlaeth yn cael eu clywed yn trafod y materion sy'n bwysig. Rwyf am ddeall sut mae gwleidyddiaeth yn llywio ein bywydau. A sut y gallwn ni, fel pobl ifanc, lywio gwleidyddiaeth. Pobl ifanc yw'r modd i newid y dyfodol drwy ddeall y gorffennol a'r presennol. Mae fy nhri mater yn ymwneud â'r amgylchedd, addysg mewn pandemig a sut y gallwn ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn gadarnhaol er mwyn iechyd. Edrychaf ymlaen at ddysgu am faterion aelodau eraill a'u cefnogi; a chynrychioli pobl ifanc Cymru. 

Er mwyn codi ymwybyddiaeth am Senedd Ieuenctid Cymru a chynrychioli'r materion, byddwn yn cynnal arolygon gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, siarad mewn gwasanaethau ysgol, siarad â'm AS lleol, a darllen ymchwil.

O brofiad yn y celfyddydau perfformio, ac fel cynrychiolydd ysgol a blwyddyn rwyf wedi meithrin sgiliau mewn siarad cyhoeddus, negodi, trafod, gwrando, arweinyddiaeth a gwaith tîm. Rwy'n awyddus i ddatblygu'r sgiliau hyn ymhellach. 

Diolch am ystyried fy nghais.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 01/12/2021 -

Digwyddiadau calendr: Hermione Vaikunthanathan-Jones