Heddiw, gallwn ddechrau llunio byd yfory.
Mae lleisiau a barn pobl ifanc yng Nghymru wedi cael eu tanraddio a’u tanbrisio am lawer rhy hir. Mae llawer o bobl ifanc wedi teimlo diffyg cynrychiolaeth o fewn llywodraeth. Fel etifeddwyr y Ddaear yn y dyfodol, dylai ein llais cyfunol ni fod â’r arwyddocâd mwyaf; rhaid inni fyw gyda chanlyniadau’r penderfyniadau a wneir gan wleidyddion heddiw yn y dyfodol; eu buddugoliaethau a’u heriau fydd ein hetifeddiaeth.
Nid yw pobl ifanc yng Nghymru wedi cael llwyfan i hyrwyddo eu gwleidyddiaeth; am flynyddoedd, mae pobl ifanc wedi gorfod apelio at y to hŷn am lwyfan o’r fath. Am gyfnod hir, rydym wedi ceisio llais mewn gwleidyddiaeth oherwydd credwn y dylem gael llais. Fel y genhedlaeth nesaf, ni yw’r rhai y bydd gwleidyddiaeth dymhestlog heddiw yn effeithio anynt fwyaf. O fewn yr arena wleidyddol, bu diffyg cynrychiolaeth o bobl ifanc erioed – ond nawr mae hynny ar fin newid.
Ers tro bellach, mae criw o weithwyr arloesol wedi bod yn gwrando ar bobl ifanc ac yn gweithio ochr yn ochr â nhw, gan wrando ar eu gofynion a’u dyhedau am sut y gallem ni wneud gwlad well. Canfuon nhw fod yna ddiffyg cynrychiolaeth mewn perthynas â phobl ifanc; fe wnaethon nhw ymroi o’u hamser i gywiro hyn. Yn gynnar yn 2018, llwyddodd y gwaith caled a’r dyfalbarhad i ddwyn ffrwyth; eleni, sefydlwyd Senedd Ieuenctid Cymru.
Senedd Ieuenctid Cymru yw gwawr oes newydd yng ngwleidyddiaeth Cymru. Dyma’n union yw’r hyn sydd ei angen arnom – rhywbeth i’n hysgogi ni i greu gwlad well. Rhoddir y fraint i bobl ifanc gael cymryd rhan yn y rhodd o ddemocratiaeth. Bydd 40 unigolyn ffres a disglair yn cael eu hethol – yn seiliedig ar eu rhinweddau a’u gallu – i wasanaethu a chynrychioli eu hetholaeth. Byddant yn gweithio ochr yn ochr ag 20 aelod arall o wahanol gefndiroedd mewn sawl maes – gan gynrychioli’r amrywiaeth aruthrol sy’n bodoli o fewn ein gwlad.
“SENEDD IEUENCTID CYMRU YW GWAWR OES NEWYDD YNG NGWLEIDYDDIAETH CYMRU.”
Credaf y bydd y bennod newydd hon yn stori Cymru yn rhoi manteision aruthrol i’n gwlad. Mae gan ein holl gynrychiolwyr ymroddedig arbenigedd a phrofiad mewn ystod eang o gefndiroedd a magwraeth. Rwy’n credu’n gryf y byddant gyda’i gilydd yn hyrwyddo pobl ifanc a’u dyfodol ym mhopeth a wnânt. Rhoddir y dasg iddynt o gynrychioli’r rhai nad ydynt yn cael eu cynrychioli – y gofalwr ifanc, sydd yn ei chael hi’n anodd i ymdopi â’r baich o ofalu am rywun agos atynt; y plentyn sy’n ofni mynd i’r ysgol bob dydd oherwydd bwlis; yr amheuwyr, sy’n teimlo na allant gyflawni’r hyn maen nhw ei eisiau mewn bywyd, dim ond oherwydd pwy ydyn nhw ac o ble maen nhw’n dod. Dim ond canran fechan yw’r rhain o’r rhai sydd angen rhoi sylw iddynt, a’n cynrychiolwyr ymroddedig ni fydd eu hyrwyddwyr. Y rhain yw dyfodol disgleiriaf a gorau Cymru.
Heddiw, gallwn ddechrau llunio byd yfory. Bydd y cyfrifoldeb o lywodraethu yn syrthio i’n dwylo ni un diwrnod, ac nid oes amser i golli wrth baratoi’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr.
Ynys Môn yw un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Mae carchar tlodi yn un anodd i ddianc oddi wrtho; mae’n rhaid inni drafod a chynnig atebion a fydd yn mynd i’r afael â’r mater pwysig iawn hwn. Mae’r ystadegau’n dangos bod plant mewn tlodi yn fwy tebygol o aros mewn tlodi oherwydd nad oes ganddynt fynediad at yr adnoddau sydd eu hangen arnynt er mwyn dianc o’r trap tlodi.
At hynny, mae Addysg yn agwedd ar fywydau plant sydd bob amser yn agored i’w drafod. Â minnau bellach wedi bod yn y system addysg am y 12 mlynedd ddiwethaf, rwyf wedi ennill mwy na digon o wybodaeth berthnasol ynghylch meddylfryd a syniadau pobl ifanc mewn addysg. Mae’r system addysg yng nghanol cryn newid ar hyn o bryd; mae cael profiad uniongyrchol ohoni o werth mawr i’r gwleidyddion sy’n gyfrifol am ddeddfwriaeth a pholisi.
Mae gan Gymru lawer o heriau y mae’n rhaid iddi eu hwynebu – yn enwedig yr heriau sy’n ymwneud â phobl ifanc. Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn sefydliad sydd â’r potensial i wneud newid go iawn i fywydau pobl ifanc. Edrychaf ymlaen at y dyfodol; un sy’n edrych yn gynyddol fwy disglair. Gyda fy holl galon, rwy’n credu ein bod ar ddechrau Oes Aur i Wleidyddiaeth Cymru!
Awn i weithio dros Gymru!