Barod at Sioe Frenhinol Cymru 2022?

Ymunwch â ni ar Faes y Sioe Frenhinol ym mis Gorffennaf.


Dyddiadau
: 18 - 21 Gorffennaf 2022

Lleoliad: Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY

Cyrraedd y lleoliad: Tocynnau a chyfarwyddiadau 

Beth sy’n digwydd

Hawl i Holi Pobl Ifanc 19.07.2022, 11.15-12.15, Adeilad S4C, Sioe Frenhinol Cymru

 

Mae iechyd meddwl, yr hinsawdd a'r amgylchedd, a'r hyn sy'n cael ei addysgu yn yr ysgol i gyd yn faterion pwysig sy'n effeithio ar bobl ifanc. Dyma'r  materion y mae Senedd Ieuenctid Cymru wedi dewis ymchwilio iddynt yn ystod y ddwy flynedd nesaf.

Ymunwch â'n panel o bobl ifanc, dan ofal Melanie Owen, i archwilio pam mae'r materion hyn yn bwysig iddynt, yr heriau a wynebir a'r cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc mewn cymunedau gwledig.

Mae'r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal mewn partneriaeth â Senedd Ieuenctid Cymru, S4C a Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru.

Mae croeso i chi gyflwyno eich cwestiwn neu sylw i'r panel cyn y digwyddiad yma.

 

 

 

 

 

 

 

Cofrestru ar gyfer y cylchlythyr

Gallwch gofrestru i gael y wybodaeth ddiweddaraf gan Senedd Ieuenctid Cymru.

Anfonir popeth y dylech ei wybod o ran newyddion a digwyddiadau yn syth i'ch mewnflwch.