Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Aled Joseph

Aled Joseph

Caerffili

Roedd Aled yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Aled Joseph

Bywgraffiad

Roedd Aled yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru:

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Brexit ein dyfodol ac addysg
  • sbwriel ac ailgylchu
  • diogelwch beicio a llwybrau beicio

Helo fy enw i yw Aled Joseph a dwi’n 13 blwydd oed ac yn dod o Gaerffili. Rydw i’n mynychu Ysgol Gyfun Cwm Rhymni.

Dwi eisiau bod yn y senedd ieuenctid achos hyd at hyn dwi wedi bod ar gyngor yr ysgol am flynyddoedd a nawr dwi eisiau helpu cyfleu llais yr ieuenctid am bethau pwysigach a phethau i wneud ag ein dyfodol! Os dwi’n cael fy newis i’ch cynrychioli byddaf eisiau rhoi mwy o arian tuag at ddiogelwch beicio a chreu fwy o lwybrau beicio i ddiogeli blant wrth feicio i’r ysgol. Hefyd sbwriel! Mae sbwriel yn broblem fawr yn ein cymunedau a dwi’n credu dylwn ni newid ailgylchu i fod yn haws i bawb. Yn olaf, byddai eisiau sôn am Brexit. Achos yn y dyfodol bydd pobl ifanc fel ni eisiau cael swyddi neu fynd i goleg yn Ewrop a mi fydd effaith Brexit yn lleuhau ein dewisiadau.

Mae gen i brofiad o fynegi barn a siarad yn swyddogol âg oedolion wrth fod ar cyngor yr ysgol ac wrth fod yn aelod o Scouts.

Tymhorau yn y swydd

  1. 05/12/2018 - 05/03/2021

Digwyddiadau calendr: Aled Joseph