Datganiad
Ymgeisydd: Dw i’n credu bod y Senedd am gael safbwynt unigryw, y galla i ei
gyflwyno, gan alluogi syniadau newydd ar gyfer llawer o faterion sy’n cael eu
hwynebu yn ein gwlad. Dw i’n credu mai fy mhwynt diffiniol, sy’n fy ngalluogi i
fod yn wahanol i’r gweddill, yw sgil nad yw’n gallu cael ei dysgu drwy
werslyfrau; profiad. Mae gen i ystod helaeth o brofiad mewn llawer o feysydd,
e.e. oherwydd fy mhrofiad helaeth, galla i gyfleu syniadau’n effeithiol, sy’n
hanfodol yn y Senedd. Ymhellach, galla i newid ac addasu fy marn, gan ddibynnu
ar y data sy’n cael eu cyflwyno i mi, gan amlygu fy ngallu a’m hawydd i ddysgu
mwy am bynciau newydd. Mae’r defnydd o brofiadau allanol wedi rhoi i mi’r gallu
i gael dealltwriaeth ehangach o’r diwylliannau amrywiol, gan dyfu fy
ngwerthfawrogiad ar yr un pryd ar gyfer yr ystod amrywiol o ddiwylliannau sy’n
bresennol ar hyn o bryd.