Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Amir Alenezi

Amir Alenezi

Aelod a Etholwyd gan Bartner

Tros Gynnal Plant Cymru

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Mynediad at addysg
  • Cost uchel teithio ar fysiau
  • Atal Clefyd Alzheimer

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Amir Alenezi

Bywgraffiad

Datganiad ymgeisydd: Fy enw i yw Amir Alenezi, dwi'n dod o wlad sy’n bell iawn i ffwrdd o’r enw Kuwait. Roeddwn i’n byw yno gyda fy nheulu, fy mam, fy nhad, fy chwaer a fy mrawd. Nid oedd y sefyllfa yn Kuwait yn dda i ni felly gwnaethom lwyddo i ddod i Gymru.

Rwyf bellaf yn byw yn Wrecsam, dwi wedi bod yno ers blwyddyn ac rwy’n hoff iawn o fy mywyd newydd. Rwy'n hoffi fy ysgol, yn enwedig Saesneg, ac rwy'n caru pêl-droed.

Mae gen i ddiddordeb mawr i ddysgu mwy am y Senedd Ieuenctid, cwrdd â phobl newydd, a dysgu popeth am wleidyddiaeth Cymru a'r DU.

Rwy'n gobeithio y gallaf fod yn llais defnyddiol a helpu pobl eraill fel fi i ddeall sut mae pethau'n gweithio gan fy mod i’n ffoadur yma. Gobeithiaf y gallaf gyfrannu fy mhrofiad a'm syniadau i helpu yn y Senedd Ieuenctid a gwrando ar bobl ifanc a chynrychioli eu barn.

Y pethau rwy'n poeni amdanynt yw:

- Mynediad at addysg i bobl ifanc

- Cost uchel tocynnau bws i bobl ifanc ar incwm isel

- Atal ac ymchwilio i afiechydon fel Clefyd Alzheimer sy'n effeithio ar nifer sylweddol ohonom wrth i ni fynd yn hŷn.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 01/12/2021 -

Digwyddiadau calendr: Amir Alenezi