Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Iechyd Meddwl
  • Hybu’r Gymraeg
  • Yr Amgylchedd

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl:

Bywgraffiad

Datganiad Ymgeisydd: Rydw i wedi bod yn aelod ffyddlon o’r Urdd ar hyd fy mywyd ac wedi manteisio ar yr holl gyfleoedd a gynigir, gan gynnwys Eisteddfodau, chwaraeon, gwersylloedd, cyrsiau a theithiau. Rydw i wedi ennill nifer o fedalau yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd am gystadlaethau llwyfan a chelf a chrefft.

Teimlaf fod gennyf wybodaeth helaeth am waith yr Urdd a’i ddylanwad ar bobl ifanc a hoffwn gael y cyfle i gynrychioli'r mudiad pwysig hwn ar Senedd Ieuenctid Cymru. Byddwn yn gynrychiolydd cryf, dibynadwy a gweithgar.

Rwy’n berson deallus a chydwybodol sydd bob amser yn rhoi 100%. Gallaf gyfathrebu’n hyderus ar lafar ac yn ysgrifenedig. Rwy’n barod i wrando ar safbwyntiau pobl eraill a chyfleu eu teimladau.

Mae gennyf wybodaeth gyffredinol dda am y materion sydd yn effeithio ar Gymru heddiw ac rwy’n awyddus i ddefnyddio’r wybodaeth hon i wneud gwahaniaeth cadarnhaol.

Mae’r Urdd wedi fy helpu i mewn nifer o wahanol ffyrdd a hoffwn roi rhywbeth yn ôl a helpu pobl ifanc eraill a chenedlaethau’r dyfodol.

Aelodaeth

Digwyddiadau calendr: