Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Brengain Glyn Williams

Brengain Glyn Williams

Arfon

Roedd Brengain yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Brengain Glyn Williams

Bywgraffiad

Roedd Brengain yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Dyma eu datganiad pan oeddent yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru:

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Ehangu'r Gymraeg o fewn cymdeithas
  • Hanes Cymru yn y cwricwlwm
  • Cerdyn teithio am ddim

Brengain Glyn Williams ydw i, ac rwyf yn ddisgybl blwyddyn 11 yn Ysgol Tryfan, Bangor. Rwy’n byw yn y Felinheli sydd â bron i 70% o’i thrigolion yn siarad Cymraeg. Serch hyn, credaf fod nifer y cyfleon i siarad yr Iaith tra’n siopa ym Mangor yn anghyson i ardal draddodiadol Gymreig. Mae staff nifer o’r siopau rwyf wedi siarad â hwy wedi cyfaddef eu bod yn deall yr Iaith ond yn gyndyn o’i siarad gyda chwsmeriaid oherwydd diffyg hyder. Mae pobl yn cefnu ar yr Iaith yn flynyddol ac o gofio beth ddigwyddodd gyda pholisi Iaith ‘Sports Direct’ yn ddiweddar, credaf yn gryf y dylid cael mwy o statws i’r Iaith a chefnogaeth i’r bobl fyddai’n fodlon ail-afael yn y Gymraeg.

Fy ail bwynt yw fy awydd i weld mwy o hanes Cymru ar gwricwlwm hanes ein hysgolion. Er ein bod yn dathlu hanes Owain Glyndŵr yn y cynradd, prin iawn yw sôn am ein tywysogion a ffigurau fel Hywel Dda ar y cwricwlwm uwchradd. Y trydydd datblygiad hoffwn ei weld ydy cerdyn teithio bysiau am ddim i bobl ifanc. Byddai cael teithio am ddim yn sicrhau yr un mynediad i weithgareddau allgyrsiol ysgolion yn ogystal â gweithgareddau mewn cymunedau.

Tymhorau yn y swydd

  1. 05/12/2018 - 05/03/2021

Digwyddiadau calendr: Brengain Glyn Williams