Roedd Calen yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.
Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd
Ieuenctid gyntaf Cymru:
Fy mhrif
ystyriaethau:
- Gwell
ymwybyddiaeth o iechyd meddwl
- Pleidleisio yn
16 oed
- Datblygu
chwaraeon ar lawr gwlad
Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn enghraifft wych o ddemocratiaeth.
Mae'n sicrhau bod gan bawb, yn cynnwys yr ieuenctid, y gallu i gyflawni
newid ac mae’n sicrhau y clywir eu barn hwy. Rwy’n dymuno bod yn rhan o'r
senedd hon gan fy mod i’n credu y gallaf lynu at geisiadau a barn fy etholwyr
ym Mlaenau Gwent. Rwyf hefyd yn credu'n gryf yn y 3 mater allweddol a
amlinellwyd gan eu bod yn rhai o'r pynciau mwyaf sylfaenol y mae angen eu
hadolygu er mwyn cyflawni newid er gwell.
Er mwyn sicrhau y clywir barn pob person yn fy etholaeth, byddaf yn cynnal
ymgynghoriadau yn ogystal â siarad yn unigol â phobl mewn ysgolion i glywed eu
barn a gwrando ar ddadleuon ynghylch rhai materion penodol.
Mae gen i berthynas benodol â phobl ifanc Blaenau Gwent ac rwy’n deall beth
sydd ei angen i leihau’r stigma sy’n gysylltiedig â gwleidyddiaeth ac i greu
cymuned lle mae gwahanol farn a syniadau yn cael eu parchu.
Fi yw'r prif fachgen yng nghyfnod uwchradd Ysgol Ebbw Fawr ac rwy’n cymryd
rhan yn rheolaidd mewn gwleidyddiaeth y tu mewn a thu allan i amgylchedd yr
ysgol.
Mae gen i’r sgiliau angenrheidiol i gyflawni'r swydd hon a gall fy agwedd
gadarnhaol gyflawni newid cadarnhaol i Flaenau Gwent.