Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Eleanor Lewis

Eleanor Lewis

Castell-nedd

Roedd Eleanor yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Eleanor Lewis

Bywgraffiad

Roedd Eleanor yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Dyma ei datganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru:

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Cymorth iechyd meddwl
  • Lleisiau pobl ifanc B/byddar
  • Cefnogaeth i ieuenctid LHDTC+

Rwy'n sefyll i fod yn aelod o’r senedd ieuenctid gan fy mod i’n gwybod bod problemau i bobl ifanc yng Nghymru y mae angen eu trafod ond nad yw hynny’n digwydd. Rwy'n berson da ar gyfer y swydd hon gan fy mod i’n onest a ffyddlon iawn, ac rwy’n barod i wneud y gwaith caled a dyfalbarhau. Mae gen i synnwyr cyffredin a gallaf gymryd cyfrifoldeb llawn am fy ngweithredoedd. Rwy’n dangos uniondeb a blaengarwch ac rwy’n frwdfrydig iawn am y swydd hon.

Un o'm prif feysydd pwyslais fydd cynrychioli pobl ifanc lgbt+ yng Nghymru. Dylai pob person ifanc deimlo ei fod yn cael ei gefnogi, ei fod yn ddiogel ac yn cael ei dderbyn yn yr ysgol ac o amgylch y gymuned, waeth beth fo'i ryw na’i  hunaniaeth rywiol. Rwyf i hefyd yn meddwl bod angen siarad am iechyd meddwl a’i addysgu mewn ysgolion - rydym ni’n cael ein dysgu o gyfnod mor gynnar am fwyta'n iach ac ymarfer corff ond ceir stigma ynghylch iechyd meddwl.

Fy mhwyslais olaf fydd hybu gwybodaeth am bobl ifanc yng Nghymru sy'n F/fyddar a Thrwm eu Clyw, a dealltwriaeth ohonynt. Mae angen clywed eu lleisiau ac mae angen i ni fel cymdeithas chwarae rhan ymarferol i wneud yn siŵr bod hawliau a chyfleoedd pobl ifanc F/fyddar a Thrwm eu Clyw yn gyfartal.

Tymhorau yn y swydd

  1. 05/12/2018 - 05/03/2021

Digwyddiadau calendr: Eleanor Lewis