Datganiad
Ymgeisydd: Rwy’n aelod o chweched dosbarth Ysgol Gyfun Gwyr. Rwy’n ymgeisio i
fod yn aelod o'r Senedd Ieuenctid oherwydd yn sgil y pandemig a'r ddwy flynedd gythryblus
ddiwethaf, mae rhoi llais cryf i bobl ifanc yn bwysicach nag erioed.
Mae sicrhau
hawliau a dyfodol plant a phobl ifanc yn bwysig iawn i mi. Rwyf yn Gadeirydd De
Cymru panel ymgynghorol ieuenctid Comisiynydd Plant Cymru a thrwy fy mhrofiad
ar y panel yma rwyf wedi datblygu’r sgiliau sydd angen i fod yn aelod
effeithiol o’r Senedd Ieuenctid.
Rwyf wedi
ysgrifennu erthyglau ar gyfer amryw o gylchgronau a blogiau, yn cynnwys elusen
‘Plant yng Nghymru’, ac wedi cael y fraint o siarad ar baneli ac mewn
cyfarfodydd fel ‘Women’s Equality Network’ am hawliau merched a phobl ifanc,
gan ddatblygu fy sgiliau cyfathrebu cyhoeddus. Rwyf wedi helpu i redeg
gweithdai hawliau plant ar draws De Cymru ac yn aelod gweithgar o grwp hawliau
plant a merched fy ysgol ers pum mlynedd.
Os caf fy ethol
i’r Senedd Ieuenctid, byddaf eisiau clywed eich barn, er mwyn gallu tynnu sylw
at y materion sy’n bwysig i chi. Byddwch yn gallu cysylltu’n uniongyrchol a mi,
nid yn unig trwy’r ysgol ond trwy gyfrifon Trydar ac Instagram arbennig.