Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Elena Ruddy

Elena Ruddy

Aelod a Etholwyd gan Bartner

Urdd Gobaith Cymru

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Adfer addysg wedi’r pandemig
  • Newid hinsawdd ac egni cynaliadwy
  • Mater o Bwys 3: Iechyd a ffitrwydd pobl Ifanc

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Elena Ruddy

Bywgraffiad

Datganiad Ymgeisydd: Rwy’n aelod o chweched dosbarth Ysgol Gyfun Gwyr. Rwy’n ymgeisio i fod yn aelod o'r Senedd Ieuenctid oherwydd yn sgil y pandemig a'r ddwy flynedd gythryblus ddiwethaf, mae rhoi llais cryf i bobl ifanc yn bwysicach nag erioed.  

Mae sicrhau hawliau a dyfodol plant a phobl ifanc yn bwysig iawn i mi. Rwyf yn Gadeirydd De Cymru panel ymgynghorol ieuenctid Comisiynydd Plant Cymru a thrwy fy mhrofiad ar y panel yma rwyf wedi datblygu’r sgiliau sydd angen i fod yn aelod effeithiol o’r Senedd Ieuenctid. 

Rwyf wedi ysgrifennu erthyglau ar gyfer amryw o gylchgronau a blogiau, yn cynnwys elusen ‘Plant yng Nghymru’, ac wedi cael y fraint o siarad ar baneli ac mewn cyfarfodydd fel ‘Women’s Equality Network’ am hawliau merched a phobl ifanc, gan ddatblygu fy sgiliau cyfathrebu cyhoeddus. Rwyf wedi helpu i redeg gweithdai hawliau plant ar draws De Cymru ac yn aelod gweithgar o grwp hawliau plant a merched fy ysgol ers pum mlynedd.

Os caf fy ethol i’r Senedd Ieuenctid, byddaf eisiau clywed eich barn, er mwyn gallu tynnu sylw at y materion sy’n bwysig i chi. Byddwch yn gallu cysylltu’n uniongyrchol a mi, nid yn unig trwy’r ysgol ond trwy gyfrifon Trydar ac Instagram arbennig. 

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 01/12/2021 -

Digwyddiadau calendr: Elena Ruddy