Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Evie Kwan

Evie Kwan

Bro Morgannwg

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Iechyd yr amgylchedd/Gwell ansawdd aer 
  • Gwell addysg ar hiliaeth
  • Defnydd parhaus o’r iaith Gymraeg 

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Evie Kwan

Bywgraffiad

Datganiad Ymgeisydd: Bu gennyf ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth erioed. Y teimlad o rwystredigaeth a’r dyhead i wneud gwahaniaeth i'r byd heb wybod sut i wneud hynny yw’r rheswm pam rydw i eisiau dod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru. Wrth dyfu i fyny mewn amgylched tref ac ysgol ble roedd y bobl o'm cwmpas yn wyn yn bennaf, roeddwn i'n aml yn teimlo, ac yn dal i deimlo, fel nad oeddwn i byth yn perthyn mewn gwirionedd. Byddwn i wrth fy modd yn defnyddio fy mhrofiadau o’r gorffennol a'r presennol i wneud pobl ifanc eraill, sydd efallai’n teimlo fel yr arferwn i deimlo, yn llai unig, a sicrhau eu bod nhw gymaint ag unrhyw un arall yn gallu lleisio’u barn a pherthyn i le y gwrandewir arnynt. Dylai pobl bleidleisio drosof gan fy mod wir yn meddwl y gallwn wrando ar leisiau pobl ifanc wrth fod yn wyneb cyfeillgar y maen nhw'n teimlo y gallen nhw ymddiried ynddo. Drwy’r ysgol, yn y gwaith a gweithgareddau eraill, drwy ganu clychau, gwirfoddoli gyda’r Cybiau a bod yn aelod o gerddorfa ysgolion uwchradd Caerdydd a’r Fro rydw i wedi fy amgylchynu â phobl ifanc eraill a'u barn. Maent i gyd wedi rhoi digon o gyfleoedd imi ddarganfod yr hyn y mae pobl ifanc Cymru ei eisiau mewn gwirionedd. Rwy'n credu fod gan bob person ifanc gymaint i'w roi a’i ddweud os ydym yn cael y cyfle iawn i wneud hynny.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 01/12/2021 -

Digwyddiadau calendr: Evie Kwan