Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Ffion Grace Lewis

Ffion Grace Lewis

Gorllewin Abertawe

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Lles a sgiliau pobl ifanc
  • Cysylltiadau rhwng cenedlaethau
  • Rheoli arian yn gallach

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Ffion Grace Lewis

Bywgraffiad

Datganiad Ymgeisydd: Mae gan bobl ifanc Cymru bŵer.

Yn y cyngor ysgol, dw in helpu i ddod â diwylliannau a chefndiroedd at ei gilydd, er mwyn i ni allu cael y syniadau ar atebion gorau. Os caf fy ethol, dw in mynd i greu cysylltiadau gydag ysgolion yn y rhanbarth a chysylltu pobl ar draws fy niddordebau chwaraeon a cherddoriaeth.

Does dim llawer o leoedd i bobl ifanc ddod at ei gilydd i gymdeithasu gyda’r nos. Dw i’n credu byddai hybiau rhanbarthol yn rhoi cyfle i bobl ifanc gael lle diogel i greu rhwydweithiau cymdeithasol a lle i ddysgu sgiliau bywyd hanfodol.

Yn 2026, bydd yr henoed (60+) yn cynrychioli bron traean o bawb yng Nghymru. Mae ein cenhedlaeth ni yn gallu gwirfoddoli i gysylltu â’r henoed i daclo unigrwydd tra’n dysgu o’r profiadau.

Mae deall cyfrifon banc, cyllid y tŷ, benthyciadau a morgeisi yn hanfodol ar gyfer bywyd llwyddiannus, a dw in meddwl dylen nhw fod yn rhan o PSHE fel bod ein cenhedlaeth yn gallu cymryd y camau cyntaf mewn gyrfa ac osgoi dyledion.

Mae gan bobl ifanc Cymru bŵer, a dw i wir eisiau cynrychioli eich llais.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 12/10/2024 -

Digwyddiadau calendr: Ffion Grace Lewis