Roedd Ffion yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.
Dyma ei datganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd
Ieuenctid gyntaf Cymru:
Fy mhrif
ystyriaethau:
- Gwell cymorth
iechyd meddwl
- Addysg a
sgiliau bywyd o ansawdd
- Hyrwyddo
heddwch a chynaliadwyedd
Dwi’n ymddiddori mewn gwleidyddiaeth ers imi gynrychioli Cymru mewn
cynhadledd am Ddemocratiaeth yn Bratislava a byddwn i'n llysgennad balch ar
gyfer fy ardal. Rwy'n sylweddoli bod yr
hawl i gael llais yn bwysig ac y dylai pobl ifanc gael cymaint o lais am
faterion sy'n effeithio arnyn nhw ag oedolion. Erbyn hyn, mae pobl ifanc yn fwy
ymwybodol o'u hawliau, diolch i waith y Cynulliad Cenedlaethol ac ysgolion a'r
ffordd orau iddyn nhw ddysgu mwy am wleidyddiaeth yw cymryd rhan.
Mae gwasanaethu ar gyngor fy ysgol ers 4 blynedd wedi fy ngwneud i’n
hyderus wrth gyfathrebu. Gallaf wneud cysylltiadau effeithiol rhwng pobl ifanc
a'r senedd, trwy’r cyfryngau cymdeithasol, ymweld ag ysgolion i glywed eu barn
neu gynnal fforwm ieuenctid. Rwy'n un dda am wrando, yn siarad Cymraeg ac yn
barchus iawn tuag at fy diwylliant fy hun a diwylliannau a chredoau eraill.
Rwy'n gobeithio cynrychioli llawer o faterion pwysig i bobl ifanc, yn
enwedig iechyd ac addysg. Gyda llawer o bwysau ar bobl ifanc heddiw, gan
gynnwys cyfryngau cymdeithasol, pwysau cyfoedion a chyflogaeth, mae pobl ifanc
yn haeddu gwell darpariaeth ar gyfer gofal iechyd meddwl ac addysg sy'n eu
paratoi yn academaidd, yn gymdeithasol ac yn foesol er mwyn bod yn ddinasyddion
iach a gweithgar yng Nghymru.