Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Cymorth i Ofalwyr Ifanc a Gofalwyr sy’n Oedolion
  • Gwasanaethau ac Adnoddau Iechyd Meddwl
  • Cyllid Sefydlog ac Ychwanegol ar gyfer Elusennau / Sefydliadau

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl:

Bywgraffiad

Datganiad Ymgeisydd: Hi, Ffion ydw i a dwi'n ofalwr ifanc! Rydw i wedi bod yn Ofalwr Ifanc ers pan oeddwn i'n 4 oed ac mae'n rhan FAWR o mywyd i; Dyma sydd wedi fy ngwneud i’n bwy ydw i heddiw. Rydw i'n gwirfoddoli gyda phrosiectau sydd i gyd yn ymdrechu i wneud gwahaniaeth i bobl ifanc. Ac rydw i wedi profi caledi yn uniongyrchol. Rydw i'n credu y gallwn ni wneud yn well bob amser, y cyfan sydd ei angen yw ymdrech ac ymrwymiad. Wrth gofio am hyn, mae'n anrhydedd anhygoel i mi allu cynrychioli gofalwyr ledled Cymru.

Rydw i’n edrych ymlaen at roi llais i farn nad yw bob amser yn cael ei chlywed a hyd yn oed, farn sydd eisoes yn uchel. Rydw i'n credu y dylai pawb gael eu clywed, eu deall a'u cefnogi bob amser. Ond rydw i'n gwybod, yn anffodus, er mwyn i hynny ddigwydd yn llwyr, yn ddiymdrech, a bob amser, bod angen gwneud llawer o newidiadau mawr o hyd. Er bod newidiadau mawr yn cymryd amser, ni allaf aros i fod yn un o lawer o leisiau sy'n gwneud yr ymdrech i fynd i'r afael â heriau a thrafodaethau fydd yn galluogi'r newidiadau mawr hyn. Fy nod yw helpu, gwneud gwahaniaethau, a sefyll dros yr hyn rwy'n credu ynddo. Nid yw bywyd yn hawdd a dylai PAWB gael eu trin yn barchus.

Diolch am y cyfle yma!

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 12/10/2024 -

Digwyddiadau calendr: