Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Ffred Hayes

Ffred Hayes

Aelod a Etholwyd gan Bartner

Digon

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Hawliau LHDTC+
  • Iechyd Meddwl
  • Addysg a pwysau Gwaith

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Ffred Hayes

Bywgraffiad

Datganiad Ymgeisydd: Rydw i yn aelod o Grwp Digon sydd yn Sefydliad Partner yn y sesiwn nesaf o'r senedd. Roeddwn yn frwd i Gynrychioli y grwp er mwyn sicrhau bod barn fy nghymeiriaid yn enwedig pobl ifanc LHDTC+ yn cael sylw teg mewn materion sydd o bwys yng Nghymru.

Mae Digon yn cyfarfod yn wythnosol. Mae hyn yn rhoi fforwm i mi allu trafod yn hawdd gyda aelodau'r grwp yn ogystal gallai siarad gyda gweddill yr ysgol drwy wasanaethau a sesiynnau mentora er mwyn sicrhau fy mod yn eu cynrychioli nhw i'r gorau o'm gallu.

Rydw i yn gyfathrebwr ac yn wrandawr ardderchog. Mae hyn yn dod o'm hyfforddiant ym maes Drama a cherddoriaeth. Drwy yr astudiaethau yma rydw i wedi dysgu'r hunan ddisgyblaeth sydd ei angen er mwyn sicrhau fy mod yn gallu cyflwyno syniadau mewn modd sy'n addas i'r gynulleidfa benodol, boed hynny yn blant ysgolion cynradd neu'n oedolion.  Rydw i'n hyderus yn siarad ar nifer o bynciau sy'n effeithio ar y gymuned LHDTC+ ac yn ddiweddar wedi gwneud cyflwyniad ar effaith HIV/AIDS yn ystod yr 80au a'r 90au hyd heddiw. Rydw i'n edrych ymlaen i ddechrau ar y gwaith! 

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 01/12/2021 -

Digwyddiadau calendr: Ffred Hayes