Datganiad ymgeisydd: Byddwn i’n gwrando ar bobl ifanc ym
Mhreseli Sir Benfro a gweddill Cymru, ac yn lleisio eu barn, gan sicrhau y
caiff eu barn ei chlywed gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn y
llywodraeth. Bydda i’n ymgynghori â phobl yn fy ardal drwy drafodaethau
personol (os caniateir hynny), neu gyfarfodydd ar-lein; ac yn ddigidol, fel arolygon.
Mae bod ar fy nghyngor ysgol am ddwy flynedd wedi rhoi
sgiliau i mi a fyddai’n ddefnyddiol yn Senedd Ieuenctid Cymru. Dw i'n mwynhau
cael trafodaethau a dadleuon, yn aml yn casglu barn myfyrwyr i helpu i lywio
penderfyniadau ysgol.
Mae angen i ni fynd i'r afael ag ystrydebau rhyw ym
mhobman, ond dylai rhan hanfodol o hyn ddigwydd yn ein hysgolion. Mae’n rhaid i
ni sicrhau nad yw hanes cyfleoedd chwaraeon anghyfartal yn digwydd eto yn ein
lleoliadau addysg.
Mae’n hanfodol grymuso pobl ifanc i gymryd mwy o reolaeth
dros beth maen nhw’n astudio er mwyn eu galluogi i gyflawni eu potensial a
chymryd perchnogaeth o'u dyfodol. Dim ond ychydig o bynciau sy’n cael eu
hastudio hyd at CA4 sy'n cael eu dewis gan fyfyrwyr; er fy mod i’n credu mewn
cwricwlwm eang, mae TGAU gorfodol yn aml yn atal disgyblion rhag astudio
pynciau sydd o fwy o ddiddordeb iddyn nhw. Mae'n bryd i ddysgwyr gael mwy o
ryddid dros beth maen nhw’n astudio; bydd e’n effeithio arnon ni fwyaf.
Mae eich llais chi o bwys.