Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Freddie Webber

Freddie Webber

Llanelli

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Datblygu economaidd
  • Gweithredu ar Newid Hinsawdd
  • Cwricwlwm Addysgol Tecach

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Freddie Webber

Bywgraffiad

Datganiad Ymgeisydd: Rwyf am fod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru gan fy mod yn credu ei bod yn hanfodol bod Cymru yn edrych ymlaen at y dyfodol, nid yn ôl i'r gorffennol. Fel pobl ifanc, mae dyfodol ein cenedl yn ein dwylo ni. Yn wyneb yr argyfwng hinsawdd, COVID-19 a mudiadau cymdeithasol, fel Black Lives Matter, rhaid inni weiddi’n uwch nag erioed ar y pwynt tyngedfennol hwn mewn hanes a sicrhau bod ein lleisiau'n cael eu clywed. Pe bawn i'n cael fy ethol i fod yn Aelod Senedd Ieuenctid Cymru dros Lanelli, byddwn yn ymladd yn ddiflino i greu dyfodol gwell i holl bobl Cymru. 

Byddwn yn ymgynghori â phobl ifanc Llanelli trwy'r cyfryngau cymdeithasol. Mae'n haws nag erioed i gyfathrebu â chynulleidfa dorfol a chael clywed eu barn yn yr oes fodern. Byddwn yn defnyddio hyn i’m mantais fy hun i gynrychioli fy ardal yn gywir.

Fe ddylech chi bleidleisio drosof i, yn anad dim, gan fy mod i'n fachgen y bobl.  Rwy'n wynebu’r un materion â phawb arall yn Llanelli ac yn deall beth yw bywyd go iawn. Yn ogystal, rwy'n ddadleuwr profiadol, cadarn a dadansoddol gyda syniadau blaengar a fydd o fudd i bawb, nid dim ond yr un y cant uchaf

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 01/12/2021 -

Digwyddiadau calendr: Freddie Webber