Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Harrison James Gardner

Harrison James Gardner

Gorllewin Clwyd

Roedd Harrison yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Y Cyfarfod Llawn | 24/02/2021

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Harrison James Gardner

Bywgraffiad

Roedd Harrison yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru:

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Ymgysylltu â phobl ifanc mewn cymunedau lleol
  • Amrywiaeth mewn dewisiadau bwyd iach
  • Atal cam-drin cyffuriau ymhlith pobl ifanc

Rwy'n dymuno bod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd fy mod yn credu nad oes llwyfan gwell i wneud gwahaniaeth ac y gallaf fod yn llais i sicrhau'r newid y mae fy etholaeth eisiau ei weld. Rydw i'n cael fy mharchu gan fy nghyfoedion ac felly byddaf yn wyneb croesawgar i'r rhai sy'n dymuno rhannu eu syniadau. Rwy'n fwy na pharod i ymweld â chanolfannau ieuenctid lleol fel llwyfan i ymgynghori pobl iau a'u cynrychioli.

Dylech roi eich pleidlais i fi gan fy mod yn ymwybodol o'r problemau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu yn ein cymdeithas ac yn teimlo'r angen i wneud yn iawn am hynny. Byddaf yn gwrando ar eraill, yn ystyried eu syniadau ac yn sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed. Yr hyn sy'n fy gwahanu o'r gweddill yw fy ngwybodaeth a'm diddordeb mewn gwleidyddiaeth sy'n fy ngalluogi i ddeall y gwaith sydd wrth law a dangos fy mod yn fwy nag abl i gyflawni'r rôl.

Mae gen i brofiad yn senedd fy ysgol fel trysorydd. Yn senedd fy ysgol, rwyf wedi annog llawer iawn o newid er gwell, ond rwy'n credu bod yn rhaid imi symud ymhellach i lefel genedlaethol er mwyn gwneud y newidiadau rwy'n anelu atynt.

Digwyddiadau calendr: Harrison James Gardner