Datganiad yr
ymgeisydd: Byddwn i wrth fy modd i fod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru
oherwydd credaf y byddai'n gyfle gwych i mi weithio gyda phobl ifanc eraill,
gwrando ar eu barn a rhannu fy marn fy hun i allu gwneud newid cadarnhaol i bob
person ifanc ar draws Cymru. Pe bawn i'n cael fy newis, byddwn yn cynnal
arolygon ar gyfer myfyrwyr ar draws gwahanol ysgolion ym Mlaenau Gwent i
sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed, ac i gynrychioli safbwyntiau a
syniadau pobl ifanc eraill yn fy nghymuned, a’r hyn y mae’n nhw’n angerddol yn
eu cylch er mwyn gwireddu eu delfrydau o ddyfodol gwell. Ymhlith rhai
enghreifftiau o sgiliau sydd gennyf mae sgiliau cyfathrebu gwych oherwydd i mi
ymgymryd â siarad mewn arholiadau LAMDA cyhoeddus a chyflwyniadau eraill, a'r
gallu i gyfleu fy meddyliau yn hyderus ar wahanol faterion o ganlyniad i fod yn
rhan o Fwrdd Pobl Ifanc yr NSPCC ar gyfer Newid. At hynny, fi yw prif ferch yr
ysgol. Credaf y dylai rhywun bleidleisio drosof oherwydd byddaf yn gallu dod ag
agwedd ymroddedig i'r Senedd, a pharodrwydd i sefyll dros farn pobl ifanc yn fy
ardal ar sut y gallwn gefnogi pobl ifanc ledled Cymru.