Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Kasia Tomsa

Kasia Tomsa

Blaenau Gwent

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Yr amgylchedd
  • Iechyd meddwl
  • Tlodi plant

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Y Pwyllgor Deisebau | 27/11/2023

Y Pwyllgor Deisebau | 27/11/2023

Y Pwyllgor Deisebau | 27/11/2023

Y Pwyllgor Deisebau | 27/11/2023

Y Pwyllgor Deisebau | 27/11/2023

Y Pwyllgor Deisebau | 27/11/2023

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Kasia Tomsa

Bywgraffiad

Datganiad yr ymgeisydd: Byddwn i wrth fy modd i fod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd credaf y byddai'n gyfle gwych i mi weithio gyda phobl ifanc eraill, gwrando ar eu barn a rhannu fy marn fy hun i allu gwneud newid cadarnhaol i bob person ifanc ar draws Cymru. Pe bawn i'n cael fy newis, byddwn yn cynnal arolygon ar gyfer myfyrwyr ar draws gwahanol ysgolion ym Mlaenau Gwent i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed, ac i gynrychioli safbwyntiau a syniadau pobl ifanc eraill yn fy nghymuned, a’r hyn y mae’n nhw’n angerddol yn eu cylch er mwyn gwireddu eu delfrydau o ddyfodol gwell. Ymhlith rhai enghreifftiau o sgiliau sydd gennyf mae sgiliau cyfathrebu gwych oherwydd i mi ymgymryd â siarad mewn arholiadau LAMDA cyhoeddus a chyflwyniadau eraill, a'r gallu i gyfleu fy meddyliau yn hyderus ar wahanol faterion o ganlyniad i fod yn rhan o Fwrdd Pobl Ifanc yr NSPCC ar gyfer Newid. At hynny, fi yw prif ferch yr ysgol. Credaf y dylai rhywun bleidleisio drosof oherwydd byddaf yn gallu dod ag agwedd ymroddedig i'r Senedd, a pharodrwydd i sefyll dros farn pobl ifanc yn fy ardal ar sut y gallwn gefnogi pobl ifanc ledled Cymru.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 01/12/2021 -

Digwyddiadau calendr: Kasia Tomsa