Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Keira Bailey-Hughes

Keira Bailey-Hughes

Aelod a Etholwyd gan Bartner

GISDA

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Cwricwlwm amrywiol a chynhwysol newydd
  • Gwella gwasanaethau iechyd meddwl ieuenctid
  • Cynllun argyfwng hinsawdd ar gyfer pobl Ifanc

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Keira Bailey-Hughes

Bywgraffiad

Datganiad yr Ymgeisydd: Rwy'n hoyw Cymraeg 15 oed sy'n defnyddio unrhyw ragenwau. Rwy'n berson creadigol sy'n meddwl y byd o nheulu ac rwy'n ystyried Clwb Ieuenctid LHDTC+ GISDA yn rhan o'm teulu estynedig. Sefydlwyd GISDA i ddarparu lloches a chefnogaeth i bobl ifanc ddigartref sy'n agored i niwed yng Ngwynedd ac rwyf wedi ymrwymo i gynrychioli holl leisiau ein pobl ifanc ar draws GISDA.

Rwy'n berson ifanc gweithgar ac wedi trefnu a chymryd rhan mewn protestiadau ar newid yn yr hinsawdd ac iechyd meddwl ac rwyf hefyd wedi annerch fy ysgol ar faterion yn ymwneud â LHDTC+ a hanes pobl croenliw, addysg rhyw LHDTC+ a materion eraill. Roedd cynnwys lleisiau fy nghyd-ddisgyblion yn y broses honno yn bwysig i mi. Rwyf hefyd yn trefnu grŵp gweithredu o'r enw Protestwyr Ieuenctid y Gogledd.

Ar wahân i brotestiadau, mae ymladd dros yr hyn sy'n iawn o fewn muriau'r Senedd hefyd yn werthfawr ac yn bwysig iawn. Rwy'n edrych ymlaen at y profiad hwn ac mae'n anrhydedd mawr i mi gael fy newis.

Fy nhri phwnc allweddol yw cwricwlwm amrywiol a chynhwysol newydd, gwella gwasanaethau iechyd meddwl ieuenctid a ffurfio cynllun argyfwng hinsawdd ar gyfer pobl ifanc.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 01/12/2021 -

Digwyddiadau calendr: Keira Bailey-Hughes