Datganiad
Ymgeisydd: Leaola ydw i, dwi’n 17 oed, a dwi’n berson cadarnhaol, agored a
hyderus, gydag angerdd cryf dros weithredu mewn cymunedau a meithrin
perthnasoedd cryf, sy'n ddull amhrisiadwy o ymgynghori â phobl ifanc. Byddaf yn
ymdrechu i sicrhau newidiadau hanfodol i strategaethau Cymru ac effeithio'n
gadarnhaol ar fywydau pobl ifanc yng Nghymru trwy wella'r cyfleoedd addysgol
sydd ar gael i fyfyrwyr, gwella darpariaethau/addysg yn ymwneud â'ch llesiant,
a chanolbwyntio ar wella cyfranogiad mewn chwaraeon. Byddai bod yn
gynrychiolydd ar gyfer Alun a Glannau Dyfrdwy nid yn unig yn werthfawr i mi fy
hun ond credaf yn gryf y byddwn yn gynrychiolydd gwych i'm cymuned hefyd, i
sicrhau newidiadau mawr eu hangen. Hoffwn gynrychioli pob un ohonoch ni waeth a
ydych chi'n 11 oed neu'n 18 oed, yn rhugl yn y Gymraeg ai peidio.
Rwy'n benderfynol
eich bod chi, fel oedolion ifanc, yn cael y rhyddid rydych yn ei haeddu i wneud
gwahaniaeth i'ch gwlad a'ch dyfodol. Mae’r cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc
ddweud eu dweud a chreu newid yn gyfyngedig, yn enwedig yn dilyn y flwyddyn
ddiwethaf, ond rydw i am newid hynny. Byddai'n bleser eich cynrychioli, i
sicrhau bod lleisiau'n cael eu clywed a bod pethau’n digwydd oherwydd hynny. Dy
lais, dy ddewis, dy ddyfodol.