Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Leaola Roberts-Biggs

Leaola Roberts-Biggs

Alun a Glannau Dyfrdwy

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Gwella cyfleoedd addysgol i fyfyrwyr
  • Llesiant pobl ifanc
  • Annog cyfranogiad mewn chwaraeon

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Diolch, Lywydd, a diolch am y cyfle i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf am waith y pwyllgor addysg a'r cwricwlwm gyda phob un ohonoch. Fel pwyllgor, canfuom fod y pynciau cyffredin roeddem am...

Y Cyfarfod Llawn | 21/06/2023

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Leaola Roberts-Biggs

Bywgraffiad

Datganiad Ymgeisydd: Leaola ydw i, dwi’n 17 oed, a dwi’n berson cadarnhaol, agored a hyderus, gydag angerdd cryf dros weithredu mewn cymunedau a meithrin perthnasoedd cryf, sy'n ddull amhrisiadwy o ymgynghori â phobl ifanc. Byddaf yn ymdrechu i sicrhau newidiadau hanfodol i strategaethau Cymru ac effeithio'n gadarnhaol ar fywydau pobl ifanc yng Nghymru trwy wella'r cyfleoedd addysgol sydd ar gael i fyfyrwyr, gwella darpariaethau/addysg yn ymwneud â'ch llesiant, a chanolbwyntio ar wella cyfranogiad mewn chwaraeon. Byddai bod yn gynrychiolydd ar gyfer Alun a Glannau Dyfrdwy nid yn unig yn werthfawr i mi fy hun ond credaf yn gryf y byddwn yn gynrychiolydd gwych i'm cymuned hefyd, i sicrhau newidiadau mawr eu hangen. Hoffwn gynrychioli pob un ohonoch ni waeth a ydych chi'n 11 oed neu'n 18 oed, yn rhugl yn y Gymraeg ai peidio.

Rwy'n benderfynol eich bod chi, fel oedolion ifanc, yn cael y rhyddid rydych yn ei haeddu i wneud gwahaniaeth i'ch gwlad a'ch dyfodol. Mae’r cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc ddweud eu dweud a chreu newid yn gyfyngedig, yn enwedig yn dilyn y flwyddyn ddiwethaf, ond rydw i am newid hynny. Byddai'n bleser eich cynrychioli, i sicrhau bod lleisiau'n cael eu clywed a bod pethau’n digwydd oherwydd hynny. Dy lais, dy ddewis, dy ddyfodol.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 01/12/2021 -

Digwyddiadau calendr: Leaola Roberts-Biggs