Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Lloyd Mann

Lloyd Mann

Mynwy

Roedd Lloyd yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Lloyd Mann

Bywgraffiad

Roedd Lloyd yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru:

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Mynd i'r afael ag iechyd meddwl
  • Newid cwricwlwm
  • Cyfleoedd yn y dyfodol

Rydw i am fod yn rhan o Senedd Ieuenctid Cymru gan fod gen i ddiddordeb mawr mewn gwleidyddiaeth a gwaith mewnol Cymru a Phrydain. Rydw i wedi bod eisiau cael llwyfan ers peth amser i rannu pryderon fy ffrindiau, fy nghyfoedion a phryderon fy hun am ein haddysg a'r byd rydyn ni'n byw ynddo. Senedd Ieuenctid Cymru yw'r llwyfan hwnnw. Drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf, rydw i wedi bod yn gyfranogwr mewn nifer o deithiau gyda thema wleidyddol gyda'm hysgol lle rydw i wedi mynegi fy marn fy hun mewn amgylchedd ffurfiol.

Rydw i'n credu y dylai pobl bleidleisio drosta i gan nad oes gen i ofn lleisio fy marn, rydw i'n wybodus iawn mewn materion cymdeithasol a gwleidyddol, ac rydw i'n fedrus iawn mewn dadl. Pan fyddwn i'n rhan o'r Senedd, mi fyddwn i'n dosbarthu cyfeiriad e-bost a chyfrif Instagram lle gallai etholwyr gysylltu รข mi am broblemau a syniadau. Byddwn i'n dosbarthu'r manylion hynny drwy fy ysgol a'r cyngor lleol. Rydw i wir yn credu, pe bawn i'n aelod, y gallwn i greu newid a rhoi llais i bobl ifanc ym Mynwy a gweddill Cymru.

Tymhorau yn y swydd

  1. 05/12/2018 - 05/03/2021

Digwyddiadau calendr: Lloyd Mann