Datganiad Ymgeisydd: Shwmae! Nate ydw i. Dw i’n 11 oed ac yn byw yng
Nghasnewydd. Dw i’n mynd i fod yn aelod da o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd dw
i’n angerddol amw neud Cymru yn lle gwell i bawb. Dw i’n mynd i ganolbwyntio
ar:
— rhoi cyfleoedd gwell i bobl ddifreintiedig drwy addysg a hyfforddiant;
— cefnogi ein hamgylchedd drwy greu mwy o gynefinoedd i anifeiliaid a
phryfaid; a
— chreu cyfleusterau chwaraeon am ddim i helpu iechyd meddwl a ffitrwydd a
lleihau’r pwysau ar y GIG.
Mae gen i’r profiad a’r sgiliau i wneud gwahaniaeth.
Dw i’n arweinydd ifanc profiadol. Roeddwn i’n llywydd PALS yn yr ysgol
gynradd, yn rhan o grŵp
clwstwr Ysgol Basaleg, a bues i’n cadeirio’r
Pwyllgor ECO.
Mae gen i brofiad o gefnogi’r gymuned, drwy helpu i hyfforddi’r tîm
pêl-droed dan 8 lleol a gwirfoddoli yng Nghartref Cŵn Caerdydd.
Mae’r profiadau hyn yn golygu fy mod i’n gydweithredwr a siaradwr cyhoeddus
hyderus, sy’n mwynhau cyfrannu a gweithio gydag eraill.
Diolch am ddarllen, a phleidleisiwch drosof fi i newid pethau yng Nghymru.