Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Ned Dong

Ned Dong

Gorllewin Caerdydd

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Grymuso llais pobl ifanc
  • Y Gymraeg
  • Addysgu am niwroamrywiaeth mewn ysgolion

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Ned Dong

Bywgraffiad

Datganiad Ymgeisydd: Mae pobl ifanc Gorllewin Caerdydd yn teimlo bod neb yn gwrando, ac maen nhw’n iawn.

Mae gyda ni syniadau gwych. Weithiau, dydyn nhw’m yn cael eu clywed. Rydyn ni’n teimlo fel bod yr ysgol, y coleg, ein rhieni ac eraill yn anwybyddu ni. Dw i’n mynd i wneud yn siŵr fy mod in llais i bobl ifanc yn yr ardal drwy

>>>>

>>>wrando ar broblemau

>>>estyn allan er mwyn rhoi llais i’r rhai sydd angen

>>>gweithredu gyda’ch lleisiau chi ar gyfer newid positif.

<<<

Fel aelod o fforymau fel Cyngor Ieuenctid Caerdydd, mae gen i brofiad yn trafod materion sy’n effeithio ar bobl ifanc gydag arweinwyr a llunwyr polisïau i wneud gwahaniaeth.

Gan fy mod i’n niwroamrywiol, dw i’n gwybod sut deimlad yw cael eich anwybyddu, cael rhywun yn eich diystyru fel rhywun diflas neu ddwl hyd yn oed.

Mae bod yn siaradwr Cymraeg rhugl hefyd yn hwb i fy ymgysylltiad cryf yn y gymuned.

Bydd hyn oll yn fy helpu i gysylltu â chymunedau ymylol a rhoi llais mewn pŵer iddyn nhw.

Bydd fy ymgyrchoedd yn cynnwys chi mewn penderfyniadau yn effeithio ar ein dyfodol.

Bydd pleidleisio drosof fi yn rhoi platfform i chi fynegi barn fel bod nhw’n cael eu gweithredu, nid eu rhoi i un ochr.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 12/10/2024 -

Digwyddiadau calendr: Ned Dong