Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Nia Griffiths

Nia Griffiths

Alun a Glannau Dyfrdwy

Roedd Nia yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Nia Griffiths

Bywgraffiad

Roedd Nia yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru:

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Diffyg Cydraddoldeb
  • Gordewdra ymysg pobl ifanc
  • Cam-drin Cyffuriau ac Alcohol

Fy enw i yw Nia Griffiths. Ar hyn o bryd rydw i ym Mlwyddyn 8, yn chwarae yn fy nhîm pêl-rwyd lleol ac yn mwynhau mynd i Guides. Hoffwn ddechrau trwy ddweud faint fyddai'r cyfle yma yn olygu i fi a faint hoffwn i gynrychioli pobl ifanc Cymru. Mae'n hollbwysig bod gyda ni lais o ran sut mae’n gwlad ni’n cael ei rhedeg. Rwyf yn cymryd rhan weithgar mewn nifer o grwpiau yn fy ysgol uwchradd ac yn gallu gweld y gwahaniaeth y mae'n ei wneud i gael llais.

Mae yna lawer o ffyrdd y gallwn i ymgynghori â phobl ifanc yn fy ardal. Yn gyntaf, byddwn yn mynd at fy ysgol i gynnal gwasanaethau a chyfarfodydd gyda'm cyfoedion. Gallaf gyrraedd pobl hefyd trwy fy uned Guides a’r cyfryngau cymdeithasol. Byddai hyn yn sicrhau bod ystod eang o bobl ifanc yn dweud eu dweud. Rwy'n gyfathrebwr ardderchog ac yn gwrando'n dda ar farn a syniadau pobl eraill. Rwy'n hyderus, yn ymroddgar ac yn rhoi ymdrech 100% bob tro i mewn i bopeth a wnaf. Rwy'n gyfeillgar a does dim ofn siarad aran i. Mae llawer o syniadau gyda fi i wneud y wlad hon yn lle gwell byth i dyfu i fyny. Pleidleisiwch imi er mwyn i'ch llais chi gael ei glywed.

Tymhorau yn y swydd

  1. 05/12/2018 - 05/03/2021

Digwyddiadau calendr: Nia Griffiths