Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Owain Williams

Owain Williams

Aberconwy

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Sicrhau tai i bobl ifanc
  • Dyfodol yr iaith Gymraeg
  • Cynhesu byd eang

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Owain Williams

Bywgraffiad

Datganiad yr Ymgeisydd: Ar hyn o bryd yma yng Nghymru, rydym ni'n wynebu sawl bygythiad. Mae gennym broblemau byd eang fel newid hinsawdd a phroblemau sy'n llythrennol ar stepen ein drws fel ail gartrefi sy'n gwthio prisiau tai i fyny a phobl leol allan. Mae hyn yn lladd cymunedau, yn lladd ein hiaith ac yn lladd ein dyfodol yn yr ardal. Dwi'n credu'n gryf bod angen datrysiad i'r problemau yma i sicrhau dyfodol i Gymru. Pe bawn i’n cael fy ethol, mi fyddaf yn lleisio fy marn am y materion hyn, yn ogystal â chludo unrhyw neges arall y mae pobl ifanc fy ardal eisiau i mi godi yn y Senedd. Mi fyddaf yn cyflawni hyn drwy ddefnyddio gwefannau cymdeithasol, ble fydd hi'n hawdd cysylltu â mi. Credaf fy mod yn ymgeisydd addas ar gyfer y rôl yma gan fod gen i ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth ac yn deall yn drylwyr beth yw'r problemau rydym ni'n eu wynebu. Mae gen i hefyd brofiad  o leisio fy marn a chyflwyno syniadau i gynulleidfa, er enghraifft, bod yn rhan o'r fforwm blwyddyn fy ysgol a hefyd cyflwyno fy mhrosiect menter Bagloriaeth Cymru i elusen leol. Dwi'n gobeithio y gallaf gyfri ar eich pleidlais. Diolch.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 01/12/2021 -

Digwyddiadau calendr: Owain Williams