Datganiad yr
ymgeisydd: Hoffwn i fod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru gan fy mod eisiau
gwneud gwahaniaeth. Rwy'n hyderus iawn ac fydda i ddim yn oedi cyn siarad am yr
hyn sy'n iawn yn fy marn i. Os pleidleisiwch drosof i, fe fydda i’n gwneud yn
siŵr y bydd
gwahaniaeth yn cael ei wneud. Fe fydda i’n helpu lleisiau pobl ifanc ledled Cymru i gael eu clywed. Fe fydda i’n
cyrraedd pobl sy'n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol fel bod eu lleisiau'n
sicr o gael eu clywed. Rydw i eisoes wedi cael effaith yn fy ysgol drwy fod yn
gynrychiolydd blwyddyn.
Rwy’n credu bod rhywiaeth yn broblem enfawr
mewn ysgolion ledled Cymru. Er enghraifft mewn gwersi addysg gorfforol rhaid i
ferched wneud gwahanol chwaraeon i fechgyn ac i'r gwrthwyneb. Ni ddylai rhywedd
eich cyfyngu na'ch diffinio.
Fel person ifanc
fy hun, gwn fod iechyd meddwl yn broblem. Dylai plant allu cael rhywun i siarad
â nhw fel nad ydyn nhw'n teimlo'n unig.
Wrth i'r pandemig
gychwyn mae'r amgylchedd wedi dod yn fwy glân ond wrth inni ddechrau dod yn ôl
i normalrwydd ni fydd yn aros felly. Rydw i am helpu plant i fynd allan i'r
awyr agored a glanhau'r amgylchedd. Os caf fy ethol fe fydda i’n sicrhau fy mod
yn annog mwy o gasglu sbwriel yn fy ardal.