Cafodd Tilly ei ailethol i Senedd Ieuenctid Cymru yn 2024, gan gynrychioli
Sir Drefaldwyn, ar ôl bod yn Aelod o Ail Senedd Ieuenctid Cymru (2021-2024)
Dyma ei ddatganiad fel ymgeisydd yn etholiad 2024:
Helô, Tilly ydw i ac wrth dyfu, sylwais oni bai fy mod i’n lleisio fy marn,
ni fyddai unrhyw un yn sylwi arnaf. Dyma’r hyn a wnaeth i mi fod y person uchel
ei chloch yr ydw i heddiw. Dyna beth dw i’n bwriadu ei wneud i bobl ifanc yng
Nghymru os caf fy ethol eto eleni. Mae cael fy ethol yn flaenorol wedi rhoi'r
cyfle hwnnw i mi leisio fy marn, ac er ein bod eisoes wedi cyflawni cymaint,
mae cymaint eto i'w wneud a byddwn wrth fy modd yn gallu gwneud hynny. Wrth i’m
hyder gynyddu yn ystod fy amser yn SIC, teimlaf y gallaf wneud y gorau ohono os
caf fy ethol eto. Fy mater cyntaf yw gorddibyniaeth ar arholiadau. Mae’r mater
hwn yn un sy’n clwyfo i'r byw a dw i’n meddwl mai ni yw’r unig bobl a all annog
y newid hwn. Yn ystod tymor yr arholiadau mae’n amlwg bod gormod o bwysau ar
fyfyrwyr ynglŷn
â’u harholiadau sydd mor
niweidiol i’w
hiechyd meddwl. Mae bod yn aelod o’r pwyllgor iechyd meddwl yn flaenorol wedi dangos i mi’r problemau mawr sy’n dal i fod yn llechu ac sydd angen eu
datrys. A dyna pam mae iechyd meddwl hefyd yn un o’m materion.
--------------------
Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Ail Senedd
Ieuenctid Cymru (2021):
Fy mhrif ystyriaethau:
- Cydraddoldeb
o ran rhywedd
- Gwella
iechyd meddwl plant/pobl ifanc
- Gofal/parch
at yr Amgylchedd
Datganiad yr ymgeisydd: Hoffwn i fod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru gan
fy mod eisiau gwneud gwahaniaeth. Rwy'n hyderus iawn ac fydda i ddim yn oedi
cyn siarad am yr hyn sy'n iawn yn fy marn i. Os pleidleisiwch drosof i, fe
fydda i’n gwneud yn siŵr
y bydd gwahaniaeth yn cael ei wneud. Fe fydda i’n helpu lleisiau pobl ifanc ledled Cymru i
gael eu clywed. Fe fydda i’n cyrraedd pobl sy'n defnyddio'r cyfryngau
cymdeithasol fel bod eu lleisiau'n sicr o gael eu clywed. Rydw i eisoes wedi
cael effaith yn fy ysgol drwy fod yn gynrychiolydd blwyddyn.
Rwy’n credu bod rhywiaeth yn broblem enfawr mewn ysgolion ledled Cymru. Er
enghraifft mewn gwersi addysg gorfforol rhaid i ferched wneud gwahanol
chwaraeon i fechgyn ac i'r gwrthwyneb. Ni ddylai rhywedd eich cyfyngu na'ch
diffinio.
Fel person ifanc fy hun, gwn fod iechyd meddwl yn broblem. Dylai plant allu
cael rhywun i siarad â nhw fel nad ydyn nhw'n teimlo'n unig.
Wrth i'r pandemig gychwyn mae'r amgylchedd wedi dod yn fwy glân ond wrth
inni ddechrau dod yn ôl i normalrwydd ni fydd yn aros felly. Rydw i am helpu
plant i fynd allan i'r awyr agored a glanhau'r amgylchedd. Os caf fy ethol fe
fydda i’n sicrhau fy mod yn annog mwy o gasglu sbwriel yn fy ardal.